Skip to main

CA4: Hylendid Bwyd (SafeConsume)

Er mwyn helpu i leihau'r baich iechyd sy'n gysylltiedig â salwch a gludir mewn bwyd, mae e-Bug a'i bartneriaid Ewropeaidd wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau addysgu am ddim fel rhan o'r prosiect SafeConsume.

Nod SafeConsume yw cynyddu gwybodaeth a newid ymddygiad o ran hylendid a diogelwch bwyd. Mae'r adnoddau sydd wedi'u datblygu ar gyfer addysgwyr sy'n addysgu pobl ifanc (11 – 18 oed). Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Ariannwyd prosiect SafeConsume gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Rhif 727580.

Gwersi

Gweld yn ôl math

Taith defnyddiwr
Hyd 50 munud
Diogelwch bwyd yn erbyn Ansawdd Bwyd
Hyd 50 munud
Microbau defnyddiol a niweidiol
Hyd 50 munud
Ymchwilio i frigiad o haint
Hyd 50 munud
Ffeithiau diogelwch bwyd
Hyd 50 munud
Adnoddau rhyngweithiol ychwanegol
Hyd 50 munud
Hyfforddiant Athrawon
Hyd NA munud

Partneriaeth SafeConsume

Mae SafeConsume yn brosiect Ewrop-gyfan i fynd i'r afael â baich iechyd salwch a gludir mewn bwyd. Roedd yr adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yn un o'r ymyriadau a ddatblygwyd i gyflawni'r amcan hwn.

Cewch ddysgu mwy am y rhaglen, yr ymyriadau a ddatblygwyd a'r gwaith ymchwil ategol ar wefan SafeConsume.

Adnoddau addysg i bobl ifanc yn eu harddegau

Cafodd yr adnoddau addysg ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau eu datblygu a'u gwerthuso gyda phartneriaid ym Mhortiwgal, Denmarc, Ffrainc, Gwlad Groeg, a Hwngari. Felly, mae'r adnodd ar gael hefyd yn yr ieithoedd canlynol:

  • Portiwgaleg
  • Daneg
  • Groeg
  • Ffrangeg
  • Hwngareg