Skip to main

Adnoddau addysgu ar sail tystiolaeth

Defnyddiwch gynlluniau gwersi e-Bug i addysgu plant a phobl ifanc 3-16 oed am hylendid, microbau, brechiadau, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae'r cynlluniau gwersi yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad ag athrawon a gwyddonwyr, ac maen nhw wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Addysg Wyddonol.

Y Blynyddoedd Cynnar

Adnoddau addysgu ar gyfer 3-5 oed

Cyfnod allweddol 1

Adnoddau addysgu ar gyfer 5-7 oed

Cyfnod allweddol 2

Adnoddau addysgu ar gyfer oedran 7-11

Cyfnod allweddol 3

Adnoddau addysgu ar gyfer 11-14 oed

Cyfnod allweddol 4

Adnoddau addysgu ar gyfer 14-16 oed

Using e-Bug teaching resources

Pam mae adnoddau addysgu e-Bug wedi cael eu datblygu?

Nod adnoddau addysgu e-Bug yw hyrwyddo newid ymddygiad ymhlith plant a phobl ifanc fel eu bod yn mabwysiadu ymddygiadau a all atal neu leihau trosglwyddiad heintiau yn eu hysgolion a'u cymunedau. Gellir defnyddio'r rhain ochr yn ochr â Chanllawiau Diogelu Iechyd mewn Lleoliadau Addysg a Gofal Plant i addysgu plant a phobl ifanc am y rhan y cyfraniad y gallan nhw ei wneud i dorri'r gadwyn heintio.

Yn ogystal, rydym yn annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio gwrthficrobau yn briodol i gefnogi ymdrechion i ymateb i ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR). Mae AMR yn digwydd pan fydd microbau (bacteria, firysau, ffyngau, a pharasitiaid) yn newid dros amser ac yn stopio ymateb i feddyginiaethau a ddefnyddir i'w lladd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach trin heintiau. AMR yw un o'r prif fygythiadau i'n hiechyd yma yn y DU ac ar hyd a lled y byd. Os bydd AMR yn parhau i godi, heb gamau i'w atal, rhagwelir y bydd 10 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn o heintiau sydd ag ymwrthedd i gyffuriau erbyn 2050.

Sut ydw i'n defnyddio adnoddau addysgu e-Bug?

.

Mae pob gwers yn cael ei mapio i'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cynnwys cyfres o ddeilliannau dysgu. Mae'r deunyddiau'n cynnwys prif arbrawf neu weithgaredd, detholiad o weithgareddau estyn, a gweithgaredd i gyfnerthu dysgu.

Mae cynlluniau gwersi ar gyfer myfyrwyr 3-16 oed ar gael i'w lawrlwytho am ddim. Dewiswch eich cyfnod allweddol i weld y cynlluniau gwersi sydd ar gael. Gallwch lawrlwytho pecyn llawn y cyfnod allweddol, a fydd yn cynnwys yr holl gynlluniau gwersi, neu gallwch fynd i dudalen pob cynllun gwers i gael y canlynol:

  • Fersiwn hygyrch, addasadwy, hawdd ei hargraffu o'r cynlluniau gwersi unigol. Mae hyn yn eich galluogi i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen arnoch i gyd-fynd â gofynion eich dosbarth a'r amser sydd gennych ar gael
  • Cyflwyniad o'r wers y gellir ei arddangos ar fwrdd gwyn rhyngweithiol
  • Taflenni athrawon: darparu unrhyw ganllawiau ac atebion i chi gyfeirio atynt
  • Taflenni myfyrwyr a thaflenni gwaith myfyrwyr i gefnogi a chyfnerthu'r dysgu

Beth yw manteision adnoddau e-Bug?

.
  • Mae adnoddau e-Bug yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i seilio ar fethodoleg newid ymddygiad
  • Mae'r adnoddau'n dilyn taith ddysgu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei datblygu, a bod ymddygiadau ymhlith plant a phobl ifanc yn cael eu hymgorffori dros amser
  • Mae'r cynlluniau gwersi wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Addysg Wyddonol (ASE) ac yn cael eu mapio i'r Cwricwlwm Cenedlaethol
Decorative

Taith Ddysgu E-Bug

Mae'r adnoddau addysgu e-Bug wedi'u cynllunio i gefnogi'r daith ddysgu. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i adeiladu ar wybodaeth dros amser, a sicrhau bod sawl cyfle i ddysgu ac ymgorffori ymddygiadau iach ar draws pob cyfnod allweddol.

Y Blynyddoedd Cynnar (3-5 oed)

Mae'r daith ddysgu e-Bug yn dechrau. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i ymddygiadau cadarnhaol o ran hylendid golchi dwylo, hylendid resbiradol, a hylendid y geg. Maen nhw'n dysgu sut i ymarfer y rhain, ac yn dechrau cyfrannu at atal lledaeniad heintiau.

Cyfnod Allweddol 1 (5-7 oed)

Mae myfyrwyr yn datblygu eu hylendid dwylo, eu hylendid resbiradol a hylendid y geg ymhellach, gan ddysgu arferion gorau er mwyn sicrhau bod eu hymddygiadau'n effeithiol wrth atal lledaeniad heintiau. Mae myfyrwyr yn cael eu cyflwyno hefyd i'r cysyniad o ficrobau, ac yn dysgu bod gwahanol fathau o ficrobau.

Cyfnod Allweddol 2 (7-11 oed)

Mae myfyrwyr yn adeiladu ymhellach ar eu gwybodaeth am hylendid, gan ddysgu pam mae hylendid dwylo, hylendid resbiradol, a hylendid y geg yn bwysig iddyn nhw, eu teulu a'u hysgol. Byddan nhw'n archwilio'n ddyfnach i fyd microbau, ac yn dysgu maen nhw'n gallu bod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol i bobl. Mae myfyrwyr yn cael eu cyflwyno hefyd i frechlynnau, gwrthfiotigau, a throsglwyddiad microbau i fwyd ac anifeiliaid ac oddi wrthynt. Maen nhw'n dysgu y gallan nhw gyfrannu at atal heintiau.

Cyfnod Allweddol 3 (11-14 oed)

Mae myfyrwyr yn parhau i archwilio'r gwahanol fathau o ficrobau, gan gynnwys meithrin eu dealltwriaeth o'r microbau a all achosi afiechyd, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon i bwnc iechyd rhywiol, gan ddysgu sut i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Maen nhw'n dysgu sut gall eu gweithredoedd, gan gynnwys arferion hylendid a brechu gadw eu hunain, eu haelwydydd a'u cymunedau'n iach, ac fe'i cyflwynir i'r cysyniad o ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Cyfnod Allweddol 4 (14-16 oed)

Mae myfyrwyr yn cyfnerthu eu dysgu ar draws pob pwnc gan gynnwys hylendid, microbau, brechu, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd, gan bwysleisio'r rôl y gallan nhw ei chwarae wrth atal a rheoli heintiau, ac wrth ymateb i fygythiad iechyd byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae myfyrwyr yn deall sut i gyfleu negeseuon gwyddonol pwysig i'w cymunedau, a'r camau y gallant eu cymryd i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.