Skip to main

Ffeithiau Diogelwch Bwyd

Mae'r wers hon yn adeiladu ar wybodaeth myfyrwyr am arferion diogelwch bwyd. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i drafod pob senario diogelwch bwyd mewn parau neu grwpiau bach.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gall salwch a gludir mewn bwyd arwain at ganlyniadau difrifol ac nad yw'n cyfrannu at gryfhau'r system imiwnedd
  • Deall canlyniadau peidio â dilyn rheolau hylendid bwyd gartref, fel croeshalogi, a sut i atal hyn
  • Deall mathau o labeli bwyd a pham mae'r rhain yn bwysig
  • Gallu esbonio'r gwahaniaeth rhwng diogelwch bwyd ac ansawdd bwyd
  • Deall nad yw'r bwyd sy'n cael ei goginio gartref o reidrwydd yn fwy diogel na bwyd sy'n cael ei fwyta mewn bwytai
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:

.

Gwybodaeth Gefndir

Gall bwyd gynnwys microbau defnyddiol a niweidiol, yn ogystal â'r rhai sy'n gysylltiedig â difetha bwyd. Gellir cysylltu microbau niweidiol â salwch a gludir mewn bwyd neu 'wenwyn bwyd’. Mae'r pum microb uchaf yn Ewrop a gludir mewn bwyd yn cyfrif am tua 70% o'r beichiau iechyd sy'n gysylltiedig â salwch a gludir mewn bwyd ac mae'r rhain yn cynnwys; Norofeirws, Toxoplasma gondii, Campylobacter jejuni, Campylobacter coli., Salmonella enterica, a Listeria monocytogenes. Mae microbau eraill fel Bacillus cereus ac Escherichia coli hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag achosion difrifol o salwch a gludir mewn bwyd.

Gellir dod o hyd i'r microbau hyn mewn cigoedd amrwd, mewn wyau heb farc y Llew Prydeinig neu farciau ansawdd cyfatebol y tu allan i'r DU, mewn rhai cynhyrchion llaeth, ar wyneb ffrwythau a llysiau, mewn bwyd sych fel pasta a reis, neu mewn bwydydd parod i fwyta fel brechdanau a phwdinau.

Gall symptomau gynnwys dolur rhydd, crampiau stumog, twymyn, a chwydu, ac fe all ambell i salwch a gludir mewn bwyd hyd yn oed arwain at farwolaeth - er bod hyn yn brin. Mae symptomau salwch a gludir mewn bwyd fel arfer yn dechrau o fewn ychydig ddyddiau o fwyta'r bwyd a achosodd yr haint ac fel arfer gellir trin y salwch gartref gyda gorffwys a hylifau.

Nid yw pob microb sy'n gysylltiedig â bwyd yn niweidiol. Gellir defnyddio microbau defnyddiol i wneud bwyd a diod, e.e., defnyddir y burum Saccharomyces cerevisae i wneud bara a chwrw. Defnyddir bacteria lactobacilli i wneud iogwrt a chaws.

Gallwch gymryd camau pwysig i atal salwch a gludir mewn bwyd a difetha bwyd ac mae'r rhain yn berthnasol ar bob cam yn ystod taith bwyd, o'r siop i'n platiau:

  1. Cadw yn lân: cynnal hylendid dwylo ac arwynebau yw'r ffordd orau o osgoi microbau a gludir mewn bwyd rhag mynd mewn i'n bwyd
  2. Cadw'r gadwyn yn oer: mae cadw bwyd yn yr oergell neu'r rhewgell yn arafu twf bacteria ond nid yw'n ei atal. Dylech leihau'r amser y mae bwyd yn ei dreulio y tu allan i'r oergell neu'r rhewgell
  3. Atal croeshalogi: atal microbau niweidiol a geir ar fwyd rhag lledaenu i fwydydd eraill (er enghraifft, trwy ein dwylo neu offer cegin) ac achosi salwch pan fydd y bwydydd hynny'n cael eu bwyta
  4. Coginio bwyd fel cig yn drylwyr
  5. Dilyn y cyngor ar labeli: defnyddir labeli a roddir ar fwydydd i benderfynu pryd mae'n ddiogel i fwyta'r bwyd, neu pryd mae ansawdd y bwyd ar ei orau

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Trafodaeth ddosbarth am bum senario diogelwch bwyd
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Taflenni gwaith
  • Cyflwyniad i'r dosbarth
Dolenni i'r cwricwlwm

ACRh:

  • Iechyd ac atal
  • Bwyta'n iach

Gwyddoniaeth:

  • Pethau byw a’u cynefinoedd

Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
User Journey Teacher Guidance
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 User Food Journey

SafeConsume

Datblygwyd yr adnodd hwn drwy brosiect SafeConsume ac fe'i hariannwyd gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Rhif 727580. Cewch ddysgu mwy am ein partneriaethau ar y dudalen Prosiectau Cydweithio.

Darllen mwy