CA2: Cyflwyniad i Ficrobau
Mae myfyrwyr yn dysgu am y gwahanol fathau o ficrobau - bacteria, firysau, a ffyngau. Maen nhw'n dysgu bod gan ficrobau wahanol siapiau a'u bod i'w canfod ym mhobman.
Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod bacteria, firysau a ffyngau yn dri phrif fath o ficrobau
- Deall bod microbau i'w cael ym mhob man
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall bod microbau'n dod mewn gwahanol siapiau a meintiau a'u bod yn rhy fach i'w gweld gan y llygad noeth
- Deall y gall microbau fod yn fuddiol, yn niweidiol, neu'r ddau
Gwybodaeth Gefndir
Mae micro-organebau, neu 'germau', 'bygiau' neu 'ficrobau' i roi eu henwau cyffredin iddyn nhw, yn bethau byw bach sy'n rhy fach i'w gweld gyda'r llygad noeth. Maen nhw i'w cael ym mhob man ar y Ddaear bron. Mae'n bwysig egluro nad yw microbau'n 'ddefnyddiol' neu'n 'niweidiol' yn eu hanfod.
Er eu bod yn fach iawn, mae microbau i'w cael mewn llawer o wahanol siapiau a meintiau. Y tri grŵp o ficrobau sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd hwn yw firysau, bacteria a ffyngau.
Bydd y cynllun gwers hwn yn annog myfyrwyr i ystyried y gwahanol fathau o ficrobau, a bydd yn eu hannog o i ymgyfarwyddo â rhai o'r microbau mwyaf adnabyddus, a bydd yn eu hannog i ddylunio eu microbau eu hunain.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Dylunio byg
- Taflen waith Beth yw microbau?
- Taflen waith Pa ficrob ydw i?
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Pethau byw a'u cynefinoedd
Saesneg:
- Darllen a deall
Celf a dylunio:
- Peintio
- Cofnodi arsylwadau