CA2: Microbau Niweidiol
Mae archwiliad agos o wahanol afiechydon yn dangos i fyfyrwyr sut a ble yn y corff y mae microbau niweidiol yn achosi afiechyd.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall y gall microbau ein gwneud yn sâl weithiau
- Deall y gall microbau niweidiol drosglwyddo o berson i berson
- Deall nad yw pob salwch yn cael ei achosi gan ficrobau niweidiol
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
.
Gwybodaeth Gefndir
Gall rhai microbau fod yn niweidiol i bobl a gallant achosi clefydau: mae'r firws Influenza yn achosi'r ffliw (byr am Influenza), gall bacteria Campylobacter achosi gwenwyn bwyd a gall ffyngau dermatoffyt, fel Tarwden, achosi clefydau fel tarwden y traed a tharwden (ringworm). Gelwir microbau fel y rhain yn bathogenau.
Gall pob microb ein gwneud yn sâl mewn gwahanol ffyrdd. Gall llawer o ficrobau niweidiol drosglwyddo o un person i'r llall mewn nifer o wahanol lwybrau – aer, cyffwrdd, dŵr, bwyd, aerosolau (fel tisian ac anwedd dŵr), anifeiliaid, ac ati. Dyna pam mae hylendid mor bwysig i amddiffyn rhag heintiau a salwch.
Mae'r cynllun gwers hwn yn helpu myfyrwyr i ddeall y gall microbau fod yn niweidiol i bobl, sut gall y microbau niweidiol hyn dyfu, a pha gamau y gallwn eu cymryd i leihau twf a lledaeniad microbau niweidiol.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Arbrawf gyda bara sydd wedi llwydo
- Poster: Rhybudd! Yn Eisiau
- Her bygiau drwg
- Cardiau fflach gwir neu anwir
- Cwis microbau niweidiol
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
Saesneg:
- Darllen a deall