Skip to main

CA2: Hylendid Dwylo

Hylendid dwylo yw un o'r pethau mwyaf effeithiol y gall plant ei wneud i helpu i atal lledaeniad haint.

Drwy gymryd rhan mewn arbrawf ystafell ddosbarth, mae myfyrwyr yn dysgu sut gall microbau ledaenu o un person i'r llall drwy gyffyrddiad a pham ei bod yn bwysig golchi ein dwylo'n iawn.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall bod modd lledaenu haint trwy ddwylo aflan
  • Deall y gall golchi dwylo atal lledaeniad heintiau
  • Deall pryd a sut i olchi dwylo
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall pam ddylen i ddefnyddio sebon i olchi ein dwylo
  • Deall mai golchi ein dwylo yw un o'r ffyrdd gorau o atal microbau rhag lledaenu
Gwybodaeth Gefndir

Mae ein dwylo'n wedi'u gorchuddio'n naturiol â bacteria defnyddiol. Fodd bynnag, gallwn godi microbau niweidiol o'r pethau rydyn yn eu cyffwrdd. Hylendid dwylo o bosibl yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau ac atal lledaeniad y microbau hyn ac unrhyw haint cysylltiedig.

Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn amgylchedd cymharol orlawn a chaeëdig lle gall microbau ledaenu'n hawdd ac yn gyflym o blentyn i blentyn trwy gyswllt uniongyrchol neu drwy arwynebau. Dangoswyd bod golchi dwylo effeithiol yn lleihau cyfraddau absenoldeb mewn ysgolion.

Mae'r cynllun gwers hwn yn helpu myfyrwyr i weld sut gall microbau ledaenu o law i law, pam bod golchi dwylo'n drwyadl gyda sebon mor bwysig ar gyfer atal heintiau, a sut i olchi dwylo'n effeithiol.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Dwylo iach
  • Beth rydym wedi'i golli?
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Llenwi'r bylchau
  • Cwis hylendid dwylo
  • Trefn golchi dwylo
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Pethau byw a'u cynefinoedd
  • Pethau byw a'u cynefinoedd Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol

Saesneg:

  • Darllen a deall
  • Ysgrifennu

Dylunio a Thechnoleg:

  • Coginio a maeth

Celf a Dylunio:

  • Paentio
  • Cofnodi arsylwadau
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart