CA4: Microbau Niweidiol
Yn y wers hon, mae archwiliad agos o wahanol afiechydon yn dangos i fyfyrwyr sut a lle mae microbau niweidiol yn achosi afiechyd. Mae myfyrwyr yn profi eu gwybodaeth am ficrobau sy'n achosi clefydau trwy ymchwilio i wahanol afiechydon a sut gallant effeithio ar y gymuned.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall sut gall microbau niweidiol (pathogenau) drosglwyddo o berson i berson
- Deall y gall microbau weithiau ein gwneud yn sâl ac achosi haint
- Deall bod gwahanol heintiau yn achosi gwahanol symptomau
- Deall sut mae teithio byd-eang wedi dylanwadu ar ledaeniad clefydau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall sut mae clefydau heintus yn effeithio ar y gymuned leol
Gwybodaeth Gefndir
Gall rhai microbau fod yn niweidiol i bobl a gallant achosi clefydau: mae'r firws Influenza yn achosi'r ffliw, gall bacteria Campylobacter achosi gwenwyn bwyd, a gall ffyngau dermatoffyt, fel Tarwden, achosi clefydau fel tarwden y traed a tarwden (ringworm). Gelwir microbau fel y rhain yn bathogenau. Gall pob microb pathogenaidd ein gwneud yn sâl mewn gwahanol ffyrdd.
Dywedir bod rhywun sy'n sâl oherwydd microb niweidiol sy'n achosi clefyd, wedi'i heintio. Gall llawer o ficrobau niweidiol drosglwyddo o un person i'r llall drwy nifer o wahanol lwybrau – aer, cyffwrdd, dŵr, bwyd, aerosolau (fel tisiadau ac anwedd dŵr), anifeiliaid, ac ati. Dywedir bod clefydau a achosir gan ficrobau o'r fath yn glefydau heintus.
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn darganfod y gwahanol fathau o glefydau heintus a achosir gan ficrobau niweidiol a'u nodweddion. Maen nhw'n archwilio sut gall clefydau heintus ledaenu ac yn ystyried sut byddent yn rheoli brigiad o achosion.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Microbau niweidiol a'u clefydau
- Microbau niweidiol - llenwi'r bylchau
- Trafodaeth am senario gweithgarwch brigiad o achosion
- Llinell amser clefydau heintus
Dolenni i'r cwricwlwm
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Agweddau gwyddonol
- Sgiliau ac ymchwiliadau arbrofol
Bioleg:
- Clefydau trosglwyddadwy
- Strwythur a swyddogaeth organebau byw
- Celloedd a threfniant
- Maeth a threuliad
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
- Saesneg:
- Darllen
- Ysgrifennu
Celf a Dylunio:
- Cyfathrebu graffig