CA4: Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol
Yn y cynllun gwers hwn, defnyddir gweithgaredd ystafell ddosbarth i ddangos pa mor hawdd y gellir trosglwyddo heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs). Gan ddefnyddio chlamydia fel enghraifft, mae'r wers hon yn helpu myfyrwyr i ddeall pa mor gyflym y gall STIs ledaenu a chanlyniadau posibl yr haint.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall y gellir lledaenu haint yn hawdd trwy gyswllt rhywiol
- Deall beth gall myfyrwyr ei wneud i amddiffyn eu hunain rhag STIs
- Gwybod nad oes gan bawb sydd â STI symptomau
- Deall nad yw ffurfiau atal cenhedlu nad ydynt yn rhwystrol yn amddiffyn rhag STIs
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall pa mor hawdd y gall heintiau fel chlamydia ledaenu ymhlith pobl ifanc
- Dechrau archwilio cyfathrebu effeithiol ynghylch defnyddio condom
Gwybodaeth Gefndir
Mae STIs yn cael eu dal drwy gysylltiad rhywiol agos â rhywun sydd eisoes wedi'i heintio. Gellir trin a gwella rhai STIs gyda gwrthfiotigau tra na ellir gwella a thrin rhai eraill. Gellir trin llawer o symptomau anwelladwy STIs i'w gwneud yn haws byw gyda nhw. Mae 25 a mwy o wahanol STIs.
Gall unrhyw un ddal STI. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dal STI yn gwybod bod y person y cawson nhw gysylltiad rhywiol ag ef wedi'i heintio. Wrth drafod iechyd rhywiol gyda myfyrwyr, mae'n bwysig bod pawb yn teimlo'n gyfforddus, yn ddiogel ac yn cael eu clywed. Mae syniadau ar gyfer rheolau sylfaenol ar gael yn y Canllawiau Athrawon ar gyfer pecyn Cyfnod Allweddol 4.
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn archwilio pa mor gyflym y gall heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ledaenu rhwng pobl a sut i atal hyn drwy ddefnyddio condomau. Fe'u cyflwynir i rai camsyniadau cyffredin ynghylch STIs ac fe gânt eu hannog i nodi ffynonellau gwybodaeth dilys i fynd i'r afael â'r rhain. Yn ogystal, mae'r cynllun gwers yn cynnwys gweithgareddau i helpu myfyrwyr i drafod a negodi arferion rhyw mwy diogel.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Arbrawf tiwb profi
- Chwilio am ffynonellau gwybodaeth dilys
- Rhyw diogel: risgiau, cyfathrebu a gwybodaeth
- Codi ymwybyddiaeth o gonorrhoea
- Trafod condomau
- Bingo iechyd rhywiol
- Siaradwr gwadd
Dolenni i'r cwricwlwm
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Bioleg
Saesneg:
- Darllen
- Ysgrifennu
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
- Cydberthnasoedd personol a rhywiol
- Iechyd rhywiol