Skip to main

CA4: Brechiadau

Mae'r wers hon yn cynnwys cyflwyniad manwl ac animeiddiadau sy'n dangos sut mae'r corff yn ymladd microbau niweidiol bob dydd. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth fanwl am frechiadau, gan gynnwys chwalu rhai camsyniadau cyffredin am frechlynnau.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall bod brechiadau'n helpu unigolion i ddatblygu imiwnedd yn erbyn haint (heintiau) ac yn helpu i ymladd yr haint (heintiau)
  • Deall pam mae brechlynnau'n bwysig i fyfyrwyr nawr a thrwy gydol eu bywyd
  • Deall y clefydau pwysig sy'n cael eu hatal gan frechlynnau, a pham mae'r rhain yn bwysig i bobl ifanc, gan gynnwys myfyrwyr
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall sut gall y cyfryngau, ac epidemigau, effeithio yn gadarnhaol ac yn negyddol ar y nifer sy'n penderfynu cael brechlyn
Gwybodaeth Gefndir

Mae brechiadau wedi bod yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol o atal clefydau ac maen nhw wedi helpu i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chlefydau heintus ledled y byd. Maen nhw wedi'u cynllunio i atal clefydau, yn hytrach na thrin clefyd ar ôl i chi ei ddal.

Gellir gwneud brechlyn o fersiynau gwan neu anactif o'r un microbau sy'n ein gwneud ni'n sâl. Mewn rhai achosion, mae'r brechlynnau'n cael eu gwneud o gelloedd sy'n debyg i gelloedd y microb sy'n ein gwneud yn sâl, ond dydyn nhw ddim yn gopïau union yr un fath. Mae brechlynnau asid riboniwcleig negesydd newydd (mRNA), fel rhai o'r brechlynnau COVID-19, yn dysgu ein celloedd sut i wneud protein, neu ddarnau o brotein, i sbarduno ymateb imiwnedd y tu mewn i'n cyrff. Trwy bob un o'r mecanweithiau hyn, mae ymateb imiwnedd yn cael ei sbarduno yn ein cyrff ac yn cynhyrchu gwrthgyrff. Dyma pam y gall pob brechlyn ein hamddiffyn rhag cael ein heintio â gwahanol glefydau. Er bod brechlynnau mRNA yn newydd i'r cyhoedd, mae ymchwilwyr wedi bod yn ymchwilio i hyn ers degawdau. Mae pob brechlyn, ni waeth at ba glefyd y mae'n cael ei gynhyrchu, yn mynd trwy brosesau trylwyr er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol cyn iddyn nhw gael eu cynnig i'r cyhoedd.

Mae imiwnedd poblogaeth yn fath o imiwnedd sy'n digwydd pan fydd brechu cyfran o boblogaeth yn darparu amddiffyniad i unigolion heb eu brechu. Os yw digon o'r boblogaeth yn cael ei brechu, mae unigolion heb eu brechu yn llai tebygol o ddod i gysylltiad â'r clefyd oherwydd ei fod yn llai cyffredin. Mae'n bwysig cynnal imiwnedd poblogaeth gan nad yw rhai pobl yn gallu cael brechiadau.

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn gwylio cyfres o fideos ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth dosbarth ynghylch sut mae brechlynnau'n gweithio i'n hamddiffyn rhag haint. Maen nhw'n cymryd rhan hefyd mewn dadl i ddeall gwahanol safbwyntiau o frechlynnau ac i ddysgu sut mae modd defnyddio ffeithiau i fynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:

Taflen waith Imiwnedd a Brechiadau. Mae'r dolenni ar gyfer y fideos sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd hwn isod

  • Clip fideo 1 o 3 ar fathau o imiwnedd
  • Clip fideo 2 o 3 ar ymateb imiwnedd
  • Clip fideo 3 o 3 ar frechlynnau ac imiwnedd poblogaeth
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Adnodd Pecyn Dadlau Trafod Brechiadau
  • Camsyniadau am Frechiadau
Dolenni i'r cwricwlwm

Gwyddoniaeth:

  • Meddwl gwyddonol
  • Sgiliau a strategaethau arbrofol
  • Dadansoddi a gwerthuso

Bioleg:

  • Celloedd
  • Iechyd a chlefydau

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Saesneg:

  • Darllen
  • Ysgrifennu

Celf a Dylunio:

  • Cyfathrebu graffig
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart