Skip to main

CA3: Microbau Defnyddiol

Yn y wers hon, mae myfyrwyr yn dysgu y gall microbau fod yn ddefnyddiol, a byddan nhw'n arbrofi gyda Lactobacillus a Streptococws i wneud eu hiogwrt eu hunain.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gellir defnyddio rhai microbau at ddibenion da
  • Deall bod angen cytrefiad bacteriol arnom i fyw bywyd iach
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall bod angen i ni amddiffyn ein fflora microbaidd normal
Gwybodaeth Gefndir

Mae bacteria yn organebau un gell, ac er bod rhai o'r rhain yn achosi salwch a chlefydau, mae eraill yn fuddiol ac yn ddefnyddiol. Un o'r prif ffyrdd y mae bacteria yn fuddiol yw yn y diwydiant bwyd. Defnyddir y sgil-gynhyrchion naturiol a grëir yn ystod twf microbaidd arferol i wneud llawer o'r cynhyrchion bwyd rydym ni'n eu bwyta bob dydd.

Mae eplesiad yn achosi newid cemegol mewn bwydydd. Mae'n broses lle mae'r bacteria yn torri'r siwgrau cymhleth yn gyfansoddion syml fel carbon deuocsid ac alcohol. Mae eplesiad yn newid y cynnyrch o un math o fwyd i fath arall.

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn dysgu sut mae microbau wedi'u heplesu yn cael eu defnyddio i greu cynhyrchion bwyd a'r amodau sydd eu hangen arnynt i dyfu a lluosi'n gyflym.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Arbrawf Iogwrt
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Iogwrt microsgopig
  • Poster cynhyrchu bwyd
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Agweddau gwyddonol
  • Sgiliau ac ymchwiliadau arbrofol

Bioleg:

  • Strwythur a swyddogaeth organebau byw
  • Celloedd a threfniant
  • Maeth a threuliad
  • Cylchoedd ac egni deunyddiau
  • Resbiradaeth gellol

Saesneg:

  • Darllen
  • Ysgrifennu
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart