Skip to main

CA3: Hylendid Dwylo

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn dysgu sut gall microbau ledaenu o un person i'r llall drwy gyffyrddiad a pham ei bod yn bwysig golchi dwylo'n iawn.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gellir lledaenu haint trwy ddwylo aflan
  • Deall y gall microbau ein gwneud yn sâl weithiau
  • Deall sut, pryd, a pham i olchi eu dwylo
  • Deall y gall golchi dwylo atal lledaeniad haint
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall pam y dylem ddefnyddio sebon i olchi ein dwylo
  • Deall bod atal heintiau, lle bo hynny'n bosibl, yn well na gwella heintiau
Gwybodaeth Gefndir

Mae ein dwylo wedi'u gorchuddio'n naturiol â bacteria defnyddiol – mae Staphylococcus yn enghraifft gyffredin. Fodd bynnag, gallwn godi microbau niweidiol o'r pethau rydym ni'n eu cyffwrdd. Hylendid dwylo o bosibl yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau ac atal lledaeniad y microbau hyn ac unrhyw haint cysylltiedig.

Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn amgylcheddau cymharol orlawn a chaeëdig lle gall microbau ledaenu'n hawdd ac yn gyflym drwy gyswllt uniongyrchol neu drwy arwynebau. Gall rhai o'r microbau hyn fod yn niweidiol ac achosi salwch. Mae golchi ein dwylo gyda sebon a dŵr ar adegau allweddol yn dileu unrhyw ficrobau niweidiol rydyn ni'n eu codi ar ein dwylo o'n hamgylchoedd. Dangoswyd bod golchi dwylo yn effeithiol yn lleihau cyfraddau absenoldeb mewn ysgolion.

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn cynnal arbrawf i nodi pwysigrwydd golchi eu dwylo ar dwf cytrefi microbau. Byddan nhw'n dysgu hefyd sut mae hylendid dwylo yn effeithio ar y rhai o'u cwmpas ac yn lleihau trosglwyddiad microbau a allai achosi salwch.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Arbrawf ysgwyd llaw
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Cadwyn heintio byg stumog
  • Cwis hylendid dwylo
  • Poster golchi dwylo
Dolenni i'r cwricwlwm

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Bioleg:

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Saesneg:

  • Darllen
  • Ysgrifennu
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart