Skip to main

CA3: Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol

Yn y cynllun gwers hwn, defnyddir gweithgaredd ystafell ddosbarth i ddangos pa mor hawdd y gellir trosglwyddo heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs). Gan ddefnyddio chlamydia fel enghraifft, mae'r wers hon yn helpu myfyrwyr i ddeall pa mor gyflym y gall STIs ledaenu a chanlyniadau posibl yr haint.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gellir lledaenu haint yn hawdd trwy gyswllt rhywiol
  • Deall beth y gall myfyrwyr ei wneud i amddiffyn eu hunain rhag STIs
  • Gwybod nad oes gan bawb sydd â STI symptomau
  • Deall pa mor hawdd y gall heintiau fel chlamydia ledaenu ymhlith pobl ifanc
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall nad yw ffurfiau atal cenhedlu nad ydynt yn rhwystrol yn amddiffyn rhag STI
  • Dechrau archwilio prosesau cyfathrebu effeithiol ynghylch defnyddio condom
Gwybodaeth Gefndir

Mae STIs yn heintiau sy'n cael eu dal drwy gysylltiad rhywiol agos â rhywun sydd eisoes wedi'i heintio. Mae modd trin a gwella rhai STIs gyda gwrthfiotigau, ond nid rhai eraill. Gellir trin llawer o symptomau STIs na ellir eu gwella i'w gwneud yn haws byw gyda nhw. Mae 25 a mwy o wahanol STIs.

Gall unrhyw un ddal STI. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dal STI yn gwybod bod y person y cawsant gysylltiad rhywiol ag ef wedi'i heintio. Wrth drafod iechyd rhywiol gyda myfyrwyr, mae'n bwysig bod pawb yn teimlo'n gyfforddus, yn ddiogel ac yn cael eu clywed. Darperir awgrymiadau ar gyfer rheolau sylfaenol yn y canllawiau athrawon sy'n cyd-fynd â'r pecyn cyfnod allweddol 3.

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn archwilio pa mor gyflym y mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn lledaenu a sut gellir atal hyn drwy ddefnyddio condomau. Drwy edrych ar chlamydia, mae myfyrwyr yn trafod sut mae'r haint yn gweithio, beth all y symptomau fod, a sut gellir atal yr haint.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Arbrawf tiwb profi
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Gwaith grŵp Pe bai chlamydia'n gallu siarad
  • Siaradwr gwadd
  • Cwis STI
Dolenni i'r cwricwlwm

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol

Saesneg:

  • Darllen
  • Ysgrifennu

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal
  • Cydberthnasoedd personol a rhywiol
  • Iechyd rhywiol
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart