Skip to main

CA3: Cyflwyniad i Ficrobau

Yn y wers hon, mae myfyrwyr yn dysgu am y gwahanol fathau o ficrobau – bacteria, firysau, a ffyngau. Maen nhw'n dysgu bod gan ficrobau wahanol siapiau a'u bod i'w canfod ym mhob man.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall bod tri math gwahanol o ficrobau
  • Deall bod microbau i'w cael ym mhob man
  • Deall bod bacteria defnyddiol i'w cael yn ein corff
  • Deall bod yna ficrobau o wahanol feintiau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall y gwahaniaethau allweddol rhwng y tri phrif fath o ficrobau
Gwybodaeth Gefndir

Mae micro-organebau yn organebau byw sy'n rhy fach i'w gweld gyda'r llygad noeth; maen nhw'n ficrosgopig. Mae micro-organebau i'w cael ym mhob man ar y Ddaear bron a gallant fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol i bobl. Mae'n bwysig egluro nad yw microbau yn ddefnyddiol neu'n niweidiol yn eu hanfod.

Er eu bod yn fach iawn, mae microbau i'w cael mewn llawer o wahanol siapiau a meintiau. Y tri grŵp o ficrobau sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd hwn yw firysau, bacteria a ffyngau.

Yn y cynllun gwers hwn, caiff myfyrwyr eu cyflwyno i amrywiaeth eang o ficrobau defnyddiol a niweidiol trwy gêm gardiau ryngweithiol. Byddant yn ymchwilio i ficrobau adnabyddus ac yn dysgu am ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Gêm gardiau Miri Microbau
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Poster ymchwil
  • Cwis microbau
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Agweddau gwyddonol
  • Sgiliau arbrofol ac ymchwilio

Bioleg:

  • Strwythur a swyddogaeth organebau byw
  • Celloedd a threfniant
  • Geneteg ac esblygiad
  • Etifeddiaeth
  • Cromosomau
  • DNA a genynnau

Saesneg:

  • Darllen
  • Ysgrifennu

Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart