Skip to main

Adnoddau Rhyngweithiol Hylendid Bwyd

Gellir defnyddio'r gweithgareddau rhyngweithiol ychwanegol hyn fel gweithgareddau annibynnol neu, i gefnogi unrhyw un o'r cynlluniau gwersi hylendid bwyd, a ddatblygwyd fel rhan o'r prosiect SafeConsume.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Addewid Diogelwch Bwyd
Galwad i weithredu: Dewiswch un adduned syml ynglŷn â sut byddwch yn creu gwell arferion diogelwch bwyd ac yn helpu i leihau salwch a gludir mewn bwyd.
E-lyfr Ryseitiau SafeConsume
Ydych chi erioed wedi bod eisiau coginio prydau blasus, cyffrous a newydd o bob rhan o Ewrop? Mae cydweithredwyr Ewropeaidd e-Bug wedi dewis ambell i rysait traddodiadol o Ddenmarc, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Groeg, Hwngari, Portiwgal a Sbaen. Mae'r rhan fwyaf o'r ryseitiau'n cynnwys cynhwysion 'risg uchel' fel cyw iâr, pysgod ac wyau, a allai os nad ydynt wedi'u coginio'n iawn arwain at salwch a gludir mewn bwyd. Gyda chymorth cyfarwyddiadau diogelwch bwyd, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud pob pryd blasus, yn ddiogel.
Pecyn Trafod Diogelwch Bwyd
Mewn cydweithrediad ag 'I'm a Scientist', nod y pecyn trafod diogelwch bwyd yw helpu myfyrwyr i ddeall y materion sy'n ymwneud â hylendid bwyd a diogelwch bwyd, ac i ymarfer eu sgiliau trafod.
Animeiddiad Taith Bwyd
Mae'r animeiddiad hwn yn dilyn taith bwyd o'r siop i'n platiau, gan dynnu sylw at adegau allweddol drwy gydol taith y defnyddiwr lle mae diogelwch bwyd a hylendid bwyd yn arbennig o bwysig. Gydag ymddygiadau ac arferion hylendid bwyd diogel, rydym ni'n lleihau'r risg o groeshalogi wrth brynu, paratoi, coginio a bwyta bwydydd. Mae ymddygiadau ac arferion hylendid bwyd diogel yn lleihau'r risg o salwch a gludir mewn bwyd. Nod yr animeiddiad hwn yw cynyddu gwybodaeth a newid ymddygiad mewn perthynas â hylendid bwyd ac arferion diogelwch.

SafeConsume

Datblygwyd yr adnodd hwn drwy brosiect SafeConsume ac fe'i hariannwyd gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Rhif 727580. Cewch ddysgu mwy am ein partneriaethau ar y dudalen Prosiectau Cydweithio.

Darllen mwy