Skip to main

CA1: Hylendid Resbiradol

Yn y wers hon, mae myfyrwyr yn dysgu pa mor hawdd y gellir lledaenu microbau drwy beswch a thisian drwy ail-greu tisiad.

Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gall fod microbau niweidiol yn ein pesychiadau a'n tisiadau
  • Deall y gellir lledaenu heintiau trwy beswch a thisian
  • Deall y gall arferion resbiradol da leihau lledaeniad heintiau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall y gallwn ni ledaenu heintiau drwy gyffwrdd arwynebau ar ôl cyffwrdd/sychu ein trwyn neu ddal pesychiad/tisiad
  • Deall sut i ddatblygu ymddygiadau arfer gorau o ran hylendid resbiradol mewn bywyd bob dydd i leihau lledaeniad haint
Gwybodaeth Gefndir

Mae heintiau resbiradol yn heintiau sy'n digwydd yn yr ysgyfaint, y frest, y sinysau, y trwyn a'r gwddf, er enghraifft, peswch ac annwyd, y ffliw a niwmonia. Gall yr heintiau hyn ledaenu o berson i berson trwy'r awyr, trwy gyswllt person i berson (cyffwrdd dwylo, cofleidio, cusanu) neu drwy gyffwrdd ag arwynebau halogedig.

Gall hylendid resbiradol da, fel gorchuddio eich pesychiadau a'ch tisiadau, helpu i atal heintiau rhag lledaenu.

Mae'r cynllun gwers hwn yn eich helpu i addysgu myfyrwyr ynghylch pam mae hylendid resbiradol yn bwysig, sut mae microbau'n lledaenu trwy disiadau a phesychiadau, a sut gellir atal lledaeniad heintiau.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Rhedfa llysnafedd trwyn
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Ffeithiau tisian
  • Smwt llysnafeddog
  • Chwilair tisian
  • Llenwi'r bylchau
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Pethau byw a'u cynefinoedd

Saesneg:

  • Darllen a deall
  • Iaith lafar

Mathemateg

  • Cymharu mesuriadau
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart