Y Blynyddoedd Cynnar: Hylendid y Geg
Mae'r wers hon yn helpu plant i ddysgu sut i frwsio eu dannedd ac i ddeall ein bod yn brwsio ein dannedd o leiaf ddwywaith y dydd er mwyn osgoi pydredd dannedd.
Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall sut i frwsio eu dannedd yn effeithiol
- Deall pam ei bod yn bwysig brwsio ein dannedd
- Deall y cysylltiad rhwng siwgr a phydredd dannedd
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
.
Gwybodaeth Gefndir
Mae iechyd deintyddol yn eithriadol o bwysig; mae gan 23% a mwy o blant Lloegr bydredd dannedd a dyma'r prif reswm y mae plant rhwng 5 a 9 oed yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae pydredd dannedd yn cael ei achosi gan facteria yn y plac.
Y newyddion da yw bod modd atal pydredd dannedd trwy gyfyngu ar sawl gwaith rydyn ni'n bwyta bwydydd a diodydd gyda siwgr ychwanegol, brwsio ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid, a gweld y deintydd yn rheolaidd i wirio iechyd ein dannedd a'n deintgig.
Bydd y cynllun gwers hwn yn eich cefnogi i gyflwyno'r cysyniad o hylendid y geg i blant ac egluro sut i frwsio dannedd yn effeithiol.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Ymarfer drych a meimio brwsio dannedd
- Siart brwsio dannedd
Dolenni i'r cwricwlwm
Cyfathrebu a datblygiad iaith:
- Gwrando a thalu sylw
- Deall
- Siarad
Datblygiad corfforol:
- Iechyd a hunanofal
Celfyddydau mynegiannol a dylunio:
- Archwilio a defnyddio cyfryngau a deunyddiau