Y Blynyddoedd Cynnar: Hylendid dwylo
Hylendid dwylo yw un o'r pethau mwyaf effeithiol y gall plant ei wneud i helpu i atal lledaeniad heintiau.
Mae'r wers hon yn helpu plant 3-5 oed i ddysgu pam ei bod yn bwysig golchi eu dwylo'n iawn a sut i wneud hynny. Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall ein bod yn golchi ein dwylo i gael gwared ar germau (microbau)
- Deall trefn golchi dwylo a chwythu trwyn
- Deall sut i chwythu eu trwyn i leihau'r risg o drosglwyddo heintiau
Gwybodaeth Gefndir
Mae ysgolion yn noddfa i ficrobau a allai fod yn niweidiol sy'n gallu lledaenu'n gyflym. Mae golchi dwylo yn helpu i ddiogelu ein hunain ac eraill rhag lledaenu'r microbau hyn.Mae ein croen yn secretu olew yn naturiol sy'n helpu i'w gadw'n llaith, ond mae hwn yn lle perffaith i ficrobau dyfu a lluosi ac mae'n helpu microbau i 'lynu' wrth ein croen. Gall ein dwylo godi microbau niweidiol yn hawdd o'n hamgylchoedd, o arwynebau a hyd yn oed drwy'r awyr. Gall y microbau niweidiol hyn ledaenu'n gyflym ac yn hawdd o blentyn i blentyn trwy gyffyrddiad a gallan nhw ein gwneud yn sâl os cânt eu llyncu.
Golchi eich dwylo yw un o'r ffyrdd gorau o atal microbau niweidiol rhag lledaenu a'n hatal rhag mynd yn sâl.
Mae'r cynllun gwers hwn yn eich helpu i addysgu plant ynghylch pam mae hylendid dwylo yn bwysig a sut i'w ymarfer.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Dwylo balŵn
- Cardiau fflach golchi dwylo a chwythu'r trwyn
- Gweithgaredd trefn lluniau
- Siart golchi dwylo
Dolenni i'r cwricwlwm
Cyfathrebu a datblygiad iaith:
- Gwrando a thalu sylw
- Deall
- Siarad
Datblygiad corfforol:
- Iechyd a hunanofal
Celfyddydau mynegiannol a dylunio:
- Archwilio a defnyddio cyfryngau a deunyddiau