Skip to main

CA2: Microbau Defnyddiol

Bydd myfyrwyr yn dysgu nad yw pob microb yn niweidiol drwy archwilio pryd mae microbau yn ddefnyddiol i bobl. Defnyddir cystadleuaeth rasio burum i ddangos i fyfyrwyr y gall microbau fod yn fuddiol.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gall rhai microbau helpu i'n cadw'n iach
  • Deall bod modd defnyddio rhai microbau er lles
  • Gwybod bod microbau'n tyfu ar gyfraddau gwahanol yn dibynnu ar eu hamgylcheddau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall pam ddylen i ddefnyddio sebon i olchi ein dwylo
  • Deall mai golchi ein dwylo yw un o'r ffyrdd gorau o atal microbau rhag lledaenu
Gwybodaeth Gefndir

Gall microbau fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol. Un o'r prif ffyrdd y mae microbau yn fuddiol yw yn y diwydiant bwyd. Mae caws, bara, iogwrt, siocled, finegr, ac alcohol i gyd yn cael eu cynhyrchu drwy dwf microbau.

Mae'r microbau a ddefnyddir i wneud y cynhyrchion hyn yn achosi newid cemegol o'r enw eplesiad – proses lle mae'r microbau'n torri'r siwgrau cymhleth yn gyfansoddion syml fel carbon deuocsid ac alcohol.

Bydd y cynllun gwers hwn yn cyflwyno'r cysyniad o ficrobau defnyddiol drwy edrych ar sut mae ffyngau yn gwneud i does bara godi a nodi microbau eraill a ddefnyddir i wneud cynhyrchion bwyd eraill.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Rasys burum
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Llenwi'r bylchau
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol

Saesneg

  • Darllen a deall
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart