Skip to main

CA2: Hylendid Resbiradol

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn dysgu pa mor hawdd y gellir lledaenu microbau niweidiol trwy beswch a thisian ac yn ail-greu tisiad enfawr, gan sefydlu ymddygiadau hylendid resbiradol da.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gall haint ledaenu trwy besychiadau a thisiadau
  • Deall bod gorchuddio eich ceg a'ch trwyn â hances bapur neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian yn helpu i atal lledaeniad heintiau
  • Deall y gall pesychu neu disian yn eich llaw ledaenu haint
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:

.

Gwybodaeth Gefndir

Mae heintiau'r llwybr anadlol (RTI) yn heintiau sy'n digwydd yn yr ysgyfaint, y frest, y sinysau, y trwyn a'r gwddf, er enghraifft, annwyd a pheswch, y ffliw, a niwmonia. Gall heintiau o'r fath ledaenu'n hawdd o berson i berson trwy'r awyr, trwy gyswllt o berson i berson (cyffwrdd dwylo, cofleidio, cusanu), neu drwy gyffwrdd ag arwynebau halogedig.

Pesychu a thisian yw ffordd ein corff o geisio cael gwared ag unrhyw ficrobau a gronynnau niweidiol rydyn ni wedi'u hanadlu i mewn fel nad ydyn nhw'n mynd yn ddyfnach i'n llwybr anadlu. Mae'n bwysig bod hylendid resbiradol da yn cael ei addysgu o oedran ifanc, a bod negeseuon allweddol yn cael eu hadeiladu dros amser. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth agosáu at dymor annwyd/ffliw y gaeaf bob blwyddyn, neu pan fo brigiad o achosion o glefyd heintus.

Mae'r cynllun gwers hwn yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae hylendid resbiradol yn bwysig a sut beth yn union yw arfer da. Maen nhw'n gwneud hyn drwy greu tisiad enfawr, a nodi sut gall rhwystrau gwahanol atal microbau niweidiol rhag lledaenu.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Tisiadau anferthol
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Smwt llysnafeddog
  • Poster
  • Cwis hylendid resbiradol
  • Llenwi'r bylchau
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Pethau byw a'u cynefinoedd
  • Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol

Saesneg:

  • Darllen a deall
  • Iaith lafar

Mathemateg

  • Cymharu mesuriadau
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart