CA2: Hylendid Bwyd
Yn y cynllun gwers hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau cwis rhyngweithiol sy'n dilyn y broses o baratoi pryd bwyd. Ar hyd y ffordd, bydd yn rhaid i fyfyrwyr wneud penderfyniadau ynghylch beth i'w wneud nesaf i gynnal arferion da o ran hylendid bwyd.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod modd dod o hyd i ficrobau ar ein bwyd a'u bod yn gallu trosglwyddo i bobl
- Deall y gall coginio bwyd yn iawn ladd microbau niweidiol
- Deall bod bacteria yn lluosi'n gyflym iawn
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall bod oergelloeddd yn atal microbau rhag tyfu yn unig, nid ydyn nhw'n eu lladd
- Deall y gwahaniaeth rhwng 'defnyddio erbyn' ac 'ar ei orau cyn
Gwybodaeth Gefndir
Gall microbau fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol yn y diwydiant bwyd. Gellir defnyddio microbau i wneud bwyd a diod, e.e., defnyddir y burum Saccharomyces cerevisiae i wneud bara a chwrw. Defnyddir bacteria lactobacilli i wneud iogwrt a chaws.
Fodd bynnag, gall rhai microbau a geir mewn bwyd arwain at wenwyn bwyd e.e., mae rhywogaethau bacteriol fel Salmonella, E. coli a Campylobacter yn gyffredin ar gigoedd amrwd a gallant achosi dolur rhydd a chwydu mewn pobl ac weithiau marwolaeth hyd yn oed – er bod hyn yn brin. Gall arferion hylendid bwyd leihau'r risg o salwch a gludir mewn bwyd a'r risg o fwyd yn difetha.
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn nodi'r microbau sy'n gyffredin mewn gwahanol fwydydd ac yn dysgu sut i wella arferion hylendid bwyd fel nad yw'r microbau hyn yn gwneud pobl yn sâl.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Gwiriad cegin
- Beth sydd yn yr oergell?
- Cwis hylendid bwyd
- Canfod y camgymeriad
- Trefnu labeli
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Pethau byw a'u cynefinoedd
- Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol
Saesneg:
- Darllen a deall
- Iaith lafar
Dylunio a Thechnoleg:
- Coginio a maeth