CA2: Hylendid Anifeiliaid a Ffermydd
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn chwarae gêm gardiau cof ryngweithiol i dynnu sylw at y tebygrwydd rhwng iechyd pobl ac iechyd anifeiliaid, a pham mae hylendid anifeiliaid mor bwysig.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod angen i'r hyn rydych yn ei wneud i helpu eich anifail anwes fod yr un fath â'r hyn rydych chi'n ei wneud i chi eich hun
- Deall y dylai anifeiliaid, yn union fel ni, gymryd gwrthfiotigau dim ond os ydynt yn angenrheidiol ac mae'n bwysig gorffen y cwrs
- Deall bod microbau niweidiol i'w cael ar y fferm ac y gall y microbau hyn ledaenu i bobl
- Deall y gallwn, drwy olchi ein dwylo a dilyn rhai rheolau sylfaenol, leihau'r siawns o ddal haint ar y fferm
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall y gellir trosglwyddo rhai microbau o anifeiliaid i fodau dynol ac i'r gwrthwyneb
Gwybodaeth Gefndir
Mae pobl ac anifeiliaid yn cario microbau. Mae microbau defnyddiol, fel y rhai sy'n byw ym mherfedd anifail, yn cyfrannu at eu cadw mewn iechyd da, tra gall microbau niweidiol eu gwneud yn sâl, yn union fel pobl.
Gall rhai microbau drosglwyddo o anifeiliaid i bobl ac i'r gwrthwyneb a gallant arwain at heintiau, sef milheintiau. Mae rhai heintiau wedi'u cyfyngu i anifeiliaid, ond maen nhw'n arwain at salwch neu farwolaeth. Pan fydd ein hanifeiliaid anwes yn cael haint, gall eu system imiwnedd eu helpu i reoli'r haint heb fod angen unrhyw driniaeth. Pan fydd ein hanifeiliaid anwes yn sâl, mae'n rhaid i ni fynd â nhw at y milfeddyg. Os oes angen triniaeth wrthfiotig ar yr haint, yn union fel bodau dynol, mae'n bwysig dilyn y presgripsiwn yn ofalus.
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn dysgu y gall microbau niweidiol ledaenu o anifail i anifail ac o anifeiliaid i fodau dynol. Maen nhw'n dysgu bod llawer o debygrwydd rhwng iechyd anifeiliaid ac iechyd pobl, a dyna pam ei bod mor bwysig ymarfer arferion da o ran hylendid ac iechyd anifeiliaid.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Gêm gof
- Cwis anifeiliaid
- Poster
- Gêm Hwyl Fferm
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Pethau byw a'u cynefinoedd
- Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol
Saesneg:
- Darllen a deall
- Iaith lafar