CA4: Microbau Defnyddiol
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn defnyddio stori inswlin i ddysgu sut gall microbau fod yn ddefnyddiol.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall y gall rhai microbau ein cadw'n iach
- Deall y gall rhai microbau ein cadw'n iach 2. Deall bod modd defnyddio rhai microbau at ddibenion da
- Deall bod angen cytrefiad bacteriol arnom i fyw bywyd iach
- Deall bod angen i ni amddiffyn ein fflora microbaidd arferol
- Dechrau ymchwilio i ymchwil wyddonol
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall bod microbau'n bwysig wrth ddadelfennu ac ailgylchu maetholion
Gwybodaeth Gefndir
Un o'r prif ffyrdd y mae bacteria yn fuddiol yw yn y diwydiant bwyd. Gellir defnyddio'r sgil-gynhyrchion naturiol a grëwyd yn ystod twf microbaidd arferol, i wneud llawer o'r cynhyrchion bwyd rydym yn eu bwyta.
Mae eplesiad yn broses lle mae bacteria yn torri siwgrau cymhleth yn gyfansoddion syml fel carbon deuocsid ac alcohol. Mae gwahanol fathau o eplesiad - mae eplesiad asid asetig yn cynhyrchu finegr ac mae eplesiad asid lactig yn cynhyrchu iogwrt a chaws.
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn archwilio sut gall microbau fod yn ddefnyddiol mewn diwydiannau. Maen nhw'n edrych ar rai o'r microbau mwyaf defnyddiol ac yn nodi eu priodweddau a'u defnyddiau mewn diwydiannau fel y diwydiant fferyllol a bwyd.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Stori inswlin
- Microbau defnyddiol a'u priodweddau
- Cyflwyniad microbau defnyddiol
Dolenni i'r cwricwlwm
Gwyddoniaeth:
- Meddwl gwyddonol
- Dadansoddi a gwerthuso
- Sgiliau a strategaethau arbrofol
- Peirianneg enetig
- Rôl ym maes biotechnoleg
Bioleg:
- Celloedd
- Iechyd a chlefydau
- Datblygu meddyginiaethau
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Saesneg:
- Darllen
- Ysgrifennu