CA4: Hylendid Dwylo a Hylendid Resbiradol
Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn dysgu pa mor hawdd y gall microbau ledaenu o un person i'r llall trwy gyffyrddiad a pham ei bod yn bwysig golchi ein dwylo'n iawn. Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall y gellir lledaenu haint trwy ddwylo aflan
- Deall y gall golchi dwylo atal lledaeniad haint
- Deall sut gellir trosglwyddo pathogenau
- Deall bod gorchuddio eich ceg a'ch trwyn â hances bapur neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian yn helpu i atal lledaeniad heintiau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
.
Gwybodaeth Gefndir
Mae'n bosibl mai hylendid dwylo yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau ac atal lledaeniad heintiau ac mae'n ymyrraeth ymddygiadol bwysig i'w meithrin a'i hatgyfnerthu o oedran ifanc. Annwyd a ffliw yw'r afiechydon mwyaf cyffredin yn yr ystafell ddosbarth ac efallai y rhai mwyaf heintus. Mae coronafeirws yn salwch resbiradol sy'n cael ei drosglwyddo mewn ffordd debyg i annwyd a ffliw. Y dull trosglwyddo mwyaf cyffredin ar gyfer RTI yw trwy gyswllt agos â diferion resbiradol yn yr awyr o besychiadau a thisiadau neu drwy gyswllt ag arwynebau halogedig.
Mae hylendid dwylo a hylendid resbiradol da yn hanfodol i atal microbau niweidiol rhag cael eu trosglwyddo a all arwain at haint a salwch.
Yn y wers hon, mae myfyrwyr yn cynnal arbrawf i atgyfnerthu pwysigrwydd golchi dwylo ar ôl ymweld â'r toiled. Maen nhw'n nodi sut gallant dorri'r gadwyn heintio ar lefel unigol a chymunedol, ac yn ystyried sut gall heintiau ledaenu'n ehangach.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Arbrawf papur toiled
- Cadwyn heintio byg stumog
- Cwis hylendid dwylo
- Cwis hylendid resbiradol
Dolenni i'r cwricwlwm
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Meddwl yn wyddonol
- Sgiliau a strategaethau arbrofol
- Dadansoddi a gwerthuso
Bioleg:
- Celloedd
- Iechyd a chlefydau
- Datblygu meddyginiaethau
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Saesneg:
- Darllen
- Ysgrifennu
Celf a Dylunio:
- Cyfathrebu graffig