Skip to main

Diogelwch Bwyd yn erbyn Ansawdd Bwyd

Yn y wers hon, bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd labeli bwyd, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng 'ar ei orau cyn' a 'defnyddio erbyn'. Bydd y wers hon yn sôn rhywfaint hefyd am y pryder cynyddol ynghylch gwastraff bwyd a'r hyn y gallwn ei wneud i leihau ein gwastraff.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall mathau o labeli bwyd a pham mae'r rhain yn bwysig
  • Deall y gwahaniaeth rhwng diogelwch bwyd ac ansawdd bwyd
  • Deall sut i storio a defnyddio gwahanol fathau o fwyd
  • Deall canlyniadau peidio â dilyn labeli bwyd yn iawn
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:

.

Gwybodaeth Gefndir

Gall bwyd gynnwys microbau defnyddiol a niweidiol, yn ogystal â'r rhai sy'n gysylltiedig â difetha bwyd. Gellir cysylltu microbau niweidiol â salwch a gludir mewn bwyd neu 'wenwyn bwyd’. Mae'r pum microb uchaf yn Ewrop a gludir mewn bwyd yn cyfrif am tua 70% o'r beichiau iechyd sy'n gysylltiedig â salwch a gludir mewn bwyd ac mae'r rhain yn cynnwys; Norofeirws, Toxoplasma gondii, Campylobacter jejuni, Campylobacter coli., Salmonella enterica, a Listeria monocytogenes. Mae microbau eraill fel Bacillus cereus ac Escherichia coli hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag achosion difrifol o salwch a gludir mewn bwyd.

Gellir dod o hyd i'r microbau hyn mewn cigoedd amrwd, mewn wyau heb farc y Llew Prydeinig neu farciau ansawdd cyfatebol y tu allan i'r DU, mewn rhai cynhyrchion llaeth, ar wyneb ffrwythau a llysiau, mewn bwyd sych fel pasta a reis, neu mewn bwydydd parod i fwyta fel brechdanau a phwdinau.

Gall symptomau gynnwys dolur rhydd, crampiau stumog, twymyn, a chwydu, ac fe all ambell i salwch a gludir mewn bwyd hyd yn oed arwain at farwolaeth - er bod hyn yn brin. Mae symptomau salwch a gludir mewn bwyd fel arfer yn dechrau o fewn ychydig ddyddiau o fwyta'r bwyd a achosodd yr haint ac fel arfer gellir trin y salwch gartref gyda gorffwys a hylifau.

Nid yw pob microb sy'n gysylltiedig â bwyd yn niweidiol. Gellir defnyddio microbau defnyddiol i wneud bwyd a diod, e.e., defnyddir y burum Saccharomyces cerevisae i wneud bara a chwrw. Defnyddir bacteria lactobacilli i wneud iogwrt a chaws.

Gallwch gymryd camau pwysig i atal salwch a gludir mewn bwyd a difetha bwyd ac mae'r rhain yn berthnasol ar bob cam yn ystod taith bwyd, o'r siop i'n platiau:

  1. Cadw yn lân: cynnal hylendid dwylo ac arwynebau yw'r ffordd orau o osgoi microbau a gludir mewn bwyd rhag mynd mewn i'n bwyd
  2. Cadw'r gadwyn yn oer: mae cadw bwyd yn yr oergell neu'r rhewgell yn arafu twf bacteria ond nid yw'n ei atal. Dylech leihau'r amser y mae bwyd yn ei dreulio y tu allan i'r oergell neu'r rhewgell
  3. Atal croeshalogi: atal microbau niweidiol a geir ar fwyd rhag lledaenu i fwydydd eraill (er enghraifft, trwy ein dwylo neu offer cegin) ac achosi salwch pan fydd y bwydydd hynny'n cael eu bwyta
  4. Coginio bwyd fel cig yn drylwyr
  5. Dilyn y cyngor ar labeli: defnyddir labeli a roddir ar fwydydd i benderfynu pryd mae'n ddiogel i fwyta'r bwyd, neu pryd mae ansawdd y bwyd ar ei orau
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Cwis rhyngweithiol ar ansawdd a diogelwch bwyd
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Gwneud siart cylch i arddangos data o bleidlais dosbarth
  • Ateb cwestiynau ar ddata'r UE
  • Fideos ar labeli dyddiadau bwyd a gwastraff bwyd
  • Taflenni gwaith ategol
Dolenni i'r cwricwlwm

ACRh:

  • Iechyd ac atal
  • Bwyta'n iach

Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
User Journey Teacher Guidance
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 User Food Journey

SafeConsume

Datblygwyd yr adnodd hwn drwy brosiect SafeConsume ac fe'i hariannwyd gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Rhif 727580. Cewch ddysgu mwy am ein partneriaethau ar y dudalen Prosiectau Cydweithio.

Darllen mwy