CA4: Cyflwyniad i Ficrobau
Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i fyd cyffrous microbau. Yn y wers hon, byddan nhw'n dysgu am facteria, firysau, a ffyngau, eu siapiau gwahanol, a'r ffaith eu bod i'w cael ym mhob man.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod bacteria defnyddiol i'w cael yn ein corff
- Deall bod microbau i'w cael ym mhob maint
- Deall y gwahaniaethau allweddol rhwng y tri phrif fath o ficrobau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall gan ddefnyddio amrywiaeth o gysyniadau a modelau i ddatblygu esboniadau gwyddonol
Gwybodaeth Gefndir
Mae micro-organebau yn organebau byw sy'n rhy fach i'w gweld gyda'r llygad noeth; maen nhw'n ficrosgopig. Mae micro-organebau i'w cael ym mhob man ar y Ddaear bron a gallan nhw fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol i bobl. Mae'n bwysig egluro nad yw microbau'n 'ddefnyddiol' neu'n 'niweidiol' yn eu hanfod.
Er eu bod yn fach iawn, mae microbau i'w cael mewn llawer o wahanol siapiau a meintiau. Y tri grŵp o ficrobau sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd hwn yw firysau, bacteria a ffyngau.
Yn y wers hon, bydd myfyrwyr yn archwilio nodweddion microbau gwahanol ac yn dod yn gyfarwydd â rhai o'r microbau mwyaf cyffredin ac adnabyddus trwy gêm.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Gêm gardiau Miri Microbau
- Addysg cymheiriaid
- Posteri microbau
- Llinell amser hanes microbau
Dolenni i'r cwricwlwm
Gwyddoniaeth:
- Meddwl yn wyddonol
- Dadansoddi a gwerthuso
- Sgiliau a strategaethau arbrofol
Bioleg:
- Celloedd
- Datblygu meddyginiaethau
- Iechyd a chlefydau
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Saesneg:
- Darllen
- Ysgrifennu
Celf a Dylunio:
- Cyfathrebu Graffig