Microbau Defnyddiol a Niweidiol
Yn y wers hon, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i bedwar math gwahanol o ficrobau: bacteria, firysau, ffyngau, a phrotozoa/parasitiaid. Byddan nhw'n dysgu y gall microbau fod yn niweidiol (h.y., achosi gwenwyn bwyd) ac yn ddefnyddiol (h.y., cael eu defnyddio i eplesu bwyd).
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod salwch a gludir mewn bwyd yn cael ei achosi gan ficrobau a bod pedwar math gwahanol ohonynt
- Deall y gwahaniaeth rhwng firysau, bacteria, parasitiaid, a ffyngau
- Deall bod yna ficrobau defnyddiol mewn bwyd
- Deall pwysigrwydd trin bwyd yn gywir er mwyn osgoi salwch a gludir mewn bwyd
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
.
Gwybodaeth Gefndir
Gall bwyd gynnwys microbau defnyddiol a niweidiol, yn ogystal â'r rhai sy'n gysylltiedig â difetha bwyd. Gellir cysylltu microbau niweidiol â salwch a gludir mewn bwyd neu 'wenwyn bwyd’. Mae'r pum microb uchaf yn Ewrop a gludir mewn bwyd yn cyfrif am tua 70% o'r beichiau iechyd sy'n gysylltiedig â salwch a gludir mewn bwyd ac mae'r rhain yn cynnwys; Norofeirws, Toxoplasma gondii, Campylobacter jejuni, Campylobacter coli., Salmonella enterica, a Listeria monocytogenes. Mae microbau eraill fel Bacillus cereus ac Escherichia coli hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag achosion difrifol o salwch a gludir mewn bwyd.
Gellir dod o hyd i'r microbau hyn mewn cigoedd amrwd, mewn wyau heb farc y Llew Prydeinig neu farciau ansawdd cyfatebol y tu allan i'r DU, mewn rhai cynhyrchion llaeth, ar wyneb ffrwythau a llysiau, mewn bwyd sych fel pasta a reis, neu mewn bwydydd parod i fwyta fel brechdanau a phwdinau.
Gall symptomau gynnwys dolur rhydd, crampiau stumog, twymyn, a chwydu, ac fe all ambell i salwch a gludir mewn bwyd hyd yn oed arwain at farwolaeth - er bod hyn yn brin. Mae symptomau salwch a gludir mewn bwyd fel arfer yn dechrau o fewn ychydig ddyddiau o fwyta'r bwyd a achosodd yr haint ac fel arfer gellir trin y salwch gartref gyda gorffwys a hylifau.
Nid yw pob microb sy'n gysylltiedig â bwyd yn niweidiol. Gellir defnyddio microbau defnyddiol i wneud bwyd a diod, e.e., defnyddir y burum Saccharomyces cerevisae i wneud bara a chwrw. Defnyddir bacteria lactobacilli i wneud iogwrt a chaws.
Gallwch gymryd camau pwysig i atal salwch a gludir mewn bwyd a difetha bwyd ac mae'r rhain yn berthnasol ar bob cam yn ystod taith bwyd, o'r siop i'n platiau:
- Cadw yn lân: cynnal hylendid dwylo ac arwynebau yw'r ffordd orau o osgoi microbau a gludir mewn bwyd rhag mynd mewn i'n bwyd
- Cadw'r gadwyn yn oer: mae cadw bwyd yn yr oergell neu'r rhewgell yn arafu twf bacteria ond nid yw'n ei atal. Dylech leihau'r amser y mae bwyd yn ei dreulio y tu allan i'r oergell neu'r rhewgell
- Atal croeshalogi: atal microbau niweidiol a geir ar fwyd rhag lledaenu i fwydydd eraill (er enghraifft, trwy ein dwylo neu offer cegin) ac achosi salwch pan fydd y bwydydd hynny'n cael eu bwyta
- Coginio bwyd fel cig yn drylwyr
- Dilyn y cyngor ar labeli: defnyddir labeli a roddir ar fwydydd i benderfynu pryd mae'n ddiogel i fwyta'r bwyd, neu pryd mae ansawdd y bwyd ar ei orau
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Gweithgaredd paru i adolygu microbau
- Astudiaeth achos i gychwyn trafodaeth am sut gall microbau achosi salwch a gludir mewn bwyd
- Tasg grŵp ymchwil i ganiatáu i fyfyrwyr weithio ar boster neu ffeil ffeithiau ar un o'r pum prif bathogen
Dolenni i'r cwricwlwm
ACRh:
- Iechyd ac atal
- Bwyta'n iach
SafeConsume
Datblygwyd yr adnodd hwn drwy brosiect SafeConsume ac fe'i hariannwyd gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Rhif 727580. Cewch ddysgu mwy am ein partneriaethau ar y dudalen Prosiectau Cydweithio.
Darllen mwy