CA3: Y Defnydd o Wrthfiotigau ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
Mae'r wers hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r bygythiad iechyd cyhoeddus byd-eang cynyddol a achosir gan ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) trwy gêm cardiau fflach bacteria rhyngweithiol.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod gwrthfiotigau yn gweithio ar heintiau bacteriol yn unig
- Deall y bydd y rhan fwyaf o heintiau cyffredin yn gwella ar eu pen eu hunain gydag amser, gorffwys yn y gwely, hydradu a byw'n iach
- Deall os ydych chi'n cael gwrthfiotigau ar bresgripsiwn, mae angen i chi orffen y cwrs. Os oes gennych chi wrthfiotigau ar ôl, am ba reswm bynnag, dylech eu gwaredu trwy eu dychwelyd i'ch fferyllfa leol
- Deall na ddylech ddefnyddio gwrthfiotigau dros ben o gwrs blaenorol neu wrthfiotigau sydd wedi'u rhoi ar bresgripsiwn i bobl eraill
- Deall os ydych chi'n cael gwrthfiotigau ar bresgripsiwn, mae angen i chi orffen y cwrs
- Deall bod bacteria yn gwrthsefyll gwrthfiotigau oherwydd gorddefnydd
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
.
Gwybodaeth Gefndir
Mae gwrthficrobau yn feddyginiaethau a ddefnyddir i ladd neu arafu twf microbau ac mae gwrthfiotigau yn feddyginiaethau arbennig a ddefnyddir gan feddygon i ladd bacteria niweidiol. Mae rhai gwrthfiotigau yn atal y bacteria rhag atgenhedlu ac mae rhai eraill yn lladd y bacteria. Mae gwrthfiotigau'n trin clefydau heintus a achosir gan facteria, fel llid yr ymennydd, twbercwlosis, a niwmonia. Nid ydyn nhw'n niweidio firysau, felly ni all gwrthfiotigau drin afiechydon fel annwyd, ffliw a COVID-19, sy'n cael eu hachosi gan firysau.
Cyn i wrthfiotigau gael eu dyfeisio, roedd bacteria niweidiol yn peryglu bywyd. Heddiw, fodd bynnag, mae llawer o heintiau bacteriol yn hawdd eu trin gyda gwrthfiotigau - ond mae bacteria yn ymladd yn ôl. Trwy gysylltiad cynyddol â'r gwrthfiotigau, mae bacteria yn datblygu ymwrthedd iddyn nhw. Mae hyn yn golygu bod heintiau bacteriol yn bygwth bywydau unwaith eto.
Yn y wers hon, caiff myfyrwyr eu cyflwyno i'r bygythiad iechyd cyhoeddus byd-eang cynyddol a achosir gan ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR). Maen nhw'n dysgu sut cafodd gwrthfiotigau eu darganfod, eu cyfyngiadau, a pham mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn fygythiad.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Gêm Gall/Ni all wrthfiotigau
- Gêm cardiau fflach ymwrthedd gwrthficrobaidd
- Twf lawnt bacteriol
- Pecyn trafod ymwrthedd i wrthfiotigau
- Casgliadau ar wrthfiotigau
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Agweddau gwyddonol
- Sgiliau ac ymchwiliadau arbrofol
- Dadansoddi a gwerthuso
Saesneg:
- Darllen