CA3: Cyflwyniad i Ficrobau
Yn y wers hon, mae myfyrwyr yn dysgu am y gwahanol fathau o ficrobau – bacteria, firysau, a ffyngau. Maen nhw'n dysgu bod gan ficrobau wahanol siapiau a'u bod i'w canfod ym mhob man.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod tri math gwahanol o ficrobau
- Deall bod microbau i'w cael ym mhob man
- Deall bod bacteria defnyddiol i'w cael yn ein corff
- Deall bod yna ficrobau o wahanol feintiau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall y gwahaniaethau allweddol rhwng y tri phrif fath o ficrobau
Gwybodaeth Gefndir
Mae micro-organebau yn organebau byw sy'n rhy fach i'w gweld gyda'r llygad noeth; maen nhw'n ficrosgopig. Mae micro-organebau i'w cael ym mhob man ar y Ddaear bron a gallant fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol i bobl. Mae'n bwysig egluro nad yw microbau yn ddefnyddiol neu'n niweidiol yn eu hanfod.
Er eu bod yn fach iawn, mae microbau i'w cael mewn llawer o wahanol siapiau a meintiau. Y tri grŵp o ficrobau sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd hwn yw firysau, bacteria a ffyngau.
Yn y cynllun gwers hwn, caiff myfyrwyr eu cyflwyno i amrywiaeth eang o ficrobau defnyddiol a niweidiol trwy gêm gardiau ryngweithiol. Byddant yn ymchwilio i ficrobau adnabyddus ac yn dysgu am ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Gêm gardiau Miri Microbau
- Poster ymchwil
- Cwis microbau
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Agweddau gwyddonol
- Sgiliau arbrofol ac ymchwilio
Bioleg:
- Strwythur a swyddogaeth organebau byw
- Celloedd a threfniant
- Geneteg ac esblygiad
- Etifeddiaeth
- Cromosomau
- DNA a genynnau
Saesneg:
- Darllen
- Ysgrifennu