Skip to main

CA2: Microbau Niweidiol

Mae archwiliad agos o wahanol afiechydon yn dangos i fyfyrwyr sut a ble yn y corff y mae microbau niweidiol yn achosi afiechyd.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall y gall microbau ein gwneud yn sâl weithiau
  • Deall y gall microbau niweidiol drosglwyddo o berson i berson
  • Deall nad yw pob salwch yn cael ei achosi gan ficrobau niweidiol
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:

.

Gwybodaeth Gefndir

Gall rhai microbau fod yn niweidiol i bobl a gallant achosi clefydau: mae'r firws Influenza yn achosi'r ffliw (byr am Influenza), gall bacteria Campylobacter achosi gwenwyn bwyd a gall ffyngau dermatoffyt, fel Tarwden, achosi clefydau fel tarwden y traed a tharwden (ringworm). Gelwir microbau fel y rhain yn bathogenau.

Gall pob microb ein gwneud yn sâl mewn gwahanol ffyrdd. Gall llawer o ficrobau niweidiol drosglwyddo o un person i'r llall mewn nifer o wahanol lwybrau – aer, cyffwrdd, dŵr, bwyd, aerosolau (fel tisian ac anwedd dŵr), anifeiliaid, ac ati. Dyna pam mae hylendid mor bwysig i amddiffyn rhag heintiau a salwch.

Mae'r cynllun gwers hwn yn helpu myfyrwyr i ddeall y gall microbau fod yn niweidiol i bobl, sut gall y microbau niweidiol hyn dyfu, a pha gamau y gallwn eu cymryd i leihau twf a lledaeniad microbau niweidiol.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Arbrawf gyda bara sydd wedi llwydo
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Poster: Rhybudd! Yn Eisiau
  • Her bygiau drwg
  • Cardiau fflach gwir neu anwir
  • Cwis microbau niweidiol
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol

Saesneg:

  • Darllen a deall
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart