Skip to main

CA2: Hylendid y Geg

Yn y wers hon, mae myfyrwyr yn dysgu sut gallan nhw atal pydredd dannedd. Mae'r gweithgareddau'n dangos pwysigrwydd brwsio dannedd ddwywaith y dydd i leihau plac, a faint o siwgr y mae llawer o ddiodydd cyffredin yn eu cynnwys.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall beth yw plac deintyddol a sut mae'n ffurfio
  • Deall pa fwydydd a diodydd sy'n achosi pydredd dannedd
  • Deall sut i frwsio dannedd yn effeithiol
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall canlyniadau pydredd dannedd
  • Deall y gall cyfyngu ar fwydydd a diodydd llawn siwgr leihau pydredd dannedd
Gwybodaeth Gefndir

Gall bacteria dyfu ar ddannedd, gan glystyru a ffurfio sylwedd gludiog o'r enw plac deintyddol. Byddwch yn ei weld yn eich ceg eich hun fel llinell hufennog o amgylch eich dannedd neu efallai y byddwch yn ei deimlo fel haen ffyrraidd gyda'ch tafod. Os nad yw plac yn cael ei frwsio i ffwrdd yn rheolaidd, neu os oes siwgr yn cael ei fwyta'n aml yn y diet, gall y bacteria yn y plac arwain at bydredd yn y dannedd.

Mae iechyd deintyddol yn eithriadol o bwysig; mae gan 23% a mwy o blant Lloegr bydredd dannedd a dyma'r prif reswm y mae plant rhwng 5 a 9 oed yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Y newyddion da yw bod modd atal pydredd dannedd trwy gyfyngu ar sawl gwaith rydyn ni'n bwyta bwydydd a diodydd gyda siwgr ychwanegol, brwsio ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid, a gweld y deintydd yn rheolaidd i wirio iechyd ein dannedd a'n deintgig.

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn dysgu beth yw plac a sut gall arwain at bydredd dannedd. Trwy gyfrwng arbrawf, maen nhw'n nodi pa mor anodd y gall fod i frwsio plac i ffwrdd os yw'n cael ei adael am gyfnod rhy hir, ac y gall osgoi bwydydd siwgraidd a brwsio rheolaidd leihau'r risg o bydredd yn y dannedd.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Paffio'r plac
  • Diodydd llawn siwgr
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Dyddiadur brwsio dannedd
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol

Saesneg:

  • Darllen a deall
  • Ysgrifennu
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart