CA2: Hylendid Dwylo
Hylendid dwylo yw un o'r pethau mwyaf effeithiol y gall plant ei wneud i helpu i atal lledaeniad haint.
Drwy gymryd rhan mewn arbrawf ystafell ddosbarth, mae myfyrwyr yn dysgu sut gall microbau ledaenu o un person i'r llall drwy gyffyrddiad a pham ei bod yn bwysig golchi ein dwylo'n iawn.
Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod modd lledaenu haint trwy ddwylo aflan
- Deall y gall golchi dwylo atal lledaeniad heintiau
- Deall pryd a sut i olchi dwylo
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall pam ddylen i ddefnyddio sebon i olchi ein dwylo
- Deall mai golchi ein dwylo yw un o'r ffyrdd gorau o atal microbau rhag lledaenu
Gwybodaeth Gefndir
Mae ein dwylo'n wedi'u gorchuddio'n naturiol â bacteria defnyddiol. Fodd bynnag, gallwn godi microbau niweidiol o'r pethau rydyn yn eu cyffwrdd. Hylendid dwylo o bosibl yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau ac atal lledaeniad y microbau hyn ac unrhyw haint cysylltiedig.
Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn amgylchedd cymharol orlawn a chaeëdig lle gall microbau ledaenu'n hawdd ac yn gyflym o blentyn i blentyn trwy gyswllt uniongyrchol neu drwy arwynebau. Dangoswyd bod golchi dwylo effeithiol yn lleihau cyfraddau absenoldeb mewn ysgolion.
Mae'r cynllun gwers hwn yn helpu myfyrwyr i weld sut gall microbau ledaenu o law i law, pam bod golchi dwylo'n drwyadl gyda sebon mor bwysig ar gyfer atal heintiau, a sut i olchi dwylo'n effeithiol.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Dwylo iach
- Beth rydym wedi'i golli?
- Llenwi'r bylchau
- Cwis hylendid dwylo
- Trefn golchi dwylo
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Pethau byw a'u cynefinoedd
- Pethau byw a'u cynefinoedd Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol
Saesneg:
- Darllen a deall
- Ysgrifennu
Dylunio a Thechnoleg:
- Coginio a maeth
Celf a Dylunio:
- Paentio
- Cofnodi arsylwadau