Skip to main

CA2: Hylendid Bwyd

Yn y cynllun gwers hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau cwis rhyngweithiol sy'n dilyn y broses o baratoi pryd bwyd. Ar hyd y ffordd, bydd yn rhaid i fyfyrwyr wneud penderfyniadau ynghylch beth i'w wneud nesaf i gynnal arferion da o ran hylendid bwyd.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall bod modd dod o hyd i ficrobau ar ein bwyd a'u bod yn gallu trosglwyddo i bobl
  • Deall y gall coginio bwyd yn iawn ladd microbau niweidiol
  • Deall bod bacteria yn lluosi'n gyflym iawn
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall bod oergelloeddd yn atal microbau rhag tyfu yn unig, nid ydyn nhw'n eu lladd
  • Deall y gwahaniaeth rhwng 'defnyddio erbyn' ac 'ar ei orau cyn
Gwybodaeth Gefndir

Gall microbau fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol yn y diwydiant bwyd. Gellir defnyddio microbau i wneud bwyd a diod, e.e., defnyddir y burum Saccharomyces cerevisiae i wneud bara a chwrw. Defnyddir bacteria lactobacilli i wneud iogwrt a chaws.

Fodd bynnag, gall rhai microbau a geir mewn bwyd arwain at wenwyn bwyd e.e., mae rhywogaethau bacteriol fel Salmonella, E. coli a Campylobacter yn gyffredin ar gigoedd amrwd a gallant achosi dolur rhydd a chwydu mewn pobl ac weithiau marwolaeth hyd yn oed – er bod hyn yn brin. Gall arferion hylendid bwyd leihau'r risg o salwch a gludir mewn bwyd a'r risg o fwyd yn difetha.

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn nodi'r microbau sy'n gyffredin mewn gwahanol fwydydd ac yn dysgu sut i wella arferion hylendid bwyd fel nad yw'r microbau hyn yn gwneud pobl yn sâl.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Gwiriad cegin
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Beth sydd yn yr oergell?
  • Cwis hylendid bwyd
  • Canfod y camgymeriad
  • Trefnu labeli
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Pethau byw a'u cynefinoedd
  • Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol

Saesneg:

  • Darllen a deall
  • Iaith lafar

Dylunio a Thechnoleg:

  • Coginio a maeth
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart