Skip to main

CA2: Gwrthfiotigau

Yn y wers hon, trwy drafodaeth a dadl dan arweiniad yr athro, mae myfyrwyr yn dysgu pa mor bwysig yw defnyddio gwrthfiotigau a meddyginiaethau eraill yn briodol.

Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall bod y rhan fwyaf o heintiau cyffredin yn gwella ar eu pen eu hunain gydag amser, gorffwys yn y gwely, hydradu a byw'n iach
  • Deall os bydd gwrthfiotigau'n cael eu cymryd, mae'n bwysig gorffen y cwrs
  • Deall bod gwrthfiotigau'n trin heintiau bacteriol yn unig
  • Deall na ddylent rannu gwrthfiotigau na meddyginiaethau eraill sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:

.

Gwybodaeth Gefndir

Mae gan y corff lawer o amddiffynfeydd naturiol i helpu i ymladd yn erbyn microbau niweidiol a all achosi haint. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall microbau groesi'r rhwystrau hyn a mynd i mewn i'n cyrff. Y rhan fwyaf o'r amser mae'r system imiwnedd yn trechu unrhyw ficrobau niweidiol sy'n mynd i mewn i'r corff, fodd bynnag, mewn rhai achosion mae angen cymorth ar y system imiwnedd.

Mae gwrthfiotigau yn feddyginiaethau arbennig a ddefnyddir i drin clefydau bacteriol, fel llid yr ymennydd, twbercwlosis a niwmonia. Dydyn nhw ddim yn niweidio firysau na ffyngau. Mae rhai gwrthfiotigau yn atal y bacteria rhag atgenhedlu ac mae rhai eraill yn lladd y bacteria.

Yn y cynllun gwers hwn, mae myfyrwyr yn archwilio sut gall atal heintiau osgoi'r angen am wrthfiotigau, a sut bydd ein system imiwnedd yn aml yn ymladd haint heb wrthfiotigau. Trwy ddefnyddio stribedi comig, cyflwynir myfyrwyr i bwysigrwydd defnyddio gwrthfiotigau yn unol â chyfarwyddiadau meddyg yn unig.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Stribed comig
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Cardiau fflach gwrthfiotigau
  • Cymysgu geiriau
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol

Saesneg:

  • Darllen a deall
  • Iaith lafar
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart