Skip to main

CA2: Cyflwyniad i Ficrobau

Mae myfyrwyr yn dysgu am y gwahanol fathau o ficrobau - bacteria, firysau, a ffyngau. Maen nhw'n dysgu bod gan ficrobau wahanol siapiau a'u bod i'w canfod ym mhobman.

Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Download the complete lessonLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall bod bacteria, firysau a ffyngau yn dri phrif fath o ficrobau
  • Deall bod microbau i'w cael ym mhob man
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
  • Deall bod microbau'n dod mewn gwahanol siapiau a meintiau a'u bod yn rhy fach i'w gweld gan y llygad noeth
  • Deall y gall microbau fod yn fuddiol, yn niweidiol, neu'r ddau
Gwybodaeth Gefndir

Mae micro-organebau, neu 'germau', 'bygiau' neu 'ficrobau' i roi eu henwau cyffredin iddyn nhw, yn bethau byw bach sy'n rhy fach i'w gweld gyda'r llygad noeth. Maen nhw i'w cael ym mhob man ar y Ddaear bron. Mae'n bwysig egluro nad yw microbau'n 'ddefnyddiol' neu'n 'niweidiol' yn eu hanfod.

Er eu bod yn fach iawn, mae microbau i'w cael mewn llawer o wahanol siapiau a meintiau. Y tri grŵp o ficrobau sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd hwn yw firysau, bacteria a ffyngau.

Bydd y cynllun gwers hwn yn annog myfyrwyr i ystyried y gwahanol fathau o ficrobau, a bydd yn eu hannog o i ymgyfarwyddo â rhai o'r microbau mwyaf adnabyddus, a bydd yn eu hannog i ddylunio eu microbau eu hunain.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Dylunio byg
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Taflen waith Beth yw microbau?
  • Taflen waith Pa ficrob ydw i?
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Pethau byw a'u cynefinoedd

Saesneg:

  • Darllen a deall

Celf a dylunio:

  • Peintio
  • Cofnodi arsylwadau
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart