Skip to main

CA1: Hylendid y Geg

Mae myfyrwyr yn dysgu sut mae plac yn ffurfio a pham a sut gall bwyd a diod llawn siwgr niweidio eich dannedd.

Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.

Lawrlwytho'r wers gyflawnLawrlwytho PDF
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
  • Deall beth yw plac deintyddol a sut mae'n ffurfio
  • Deall canlyniadau pydredd dannedd
  • Deall y gall cyfyngu ar fwydydd a diodydd llawn siwgr leihau pydredd dannedd
  • Deall pwysigrwydd bwyta byrbrydau iachach
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:

.

Gwybodaeth Gefndir

Mae iechyd deintyddol yn eithriadol o bwysig; mae gan 23% a mwy o blant Lloegr bydredd dannedd a dyma'r prif reswm y mae plant rhwng 5 a 9 oed yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae pydredd dannedd yn cael ei achosi gan facteria yn y plac.

Y newyddion da yw bod modd atal pydredd dannedd trwy gyfyngu ar sawl gwaith rydyn ni'n bwyta bwydydd a diodydd gyda siwgr ychwanegol, brwsio ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid, a gweld y deintydd yn rheolaidd i wirio iechyd ein dannedd a'n deintgig.

Bydd y cynllun gwers hwn yn eich cefnogi i gyflwyno'r cysyniad o bydredd dannedd i fyfyrwyr a phwysigrwydd osgoi bwydydd llawn siwgr.

Gweithgareddau
Prif weithgaredd:
  • Arbrawf Plisgyn wy
Fideo Prif Weithgaredd
Gweithgareddau estyn:
  • Cardiau brwsio dannedd
  • Dewisiadau bwyd iachach
Dolenni i'r cwricwlwm

ABCh/ACRh:

  • Iechyd ac atal

Gwyddoniaeth:

  • Gweithio'n wyddonol
  • Pethau byw a'u cynefinoedd

Saesneg:

  • Darllen a deall
  • Ysgrifennu
Deunyddiau Ategol
Taflenni athrawon
Hand Washing and Nose Blowing Flashcards
Taflenni gwaith myfyrwyr
SW1 Picture Sequencing
SW2 Healthy Hands Washing Progress Chart