CA1: Hylendid Resbiradol
Yn y wers hon, mae myfyrwyr yn dysgu pa mor hawdd y gellir lledaenu microbau drwy beswch a thisian drwy ail-greu tisiad.
Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall y gall fod microbau niweidiol yn ein pesychiadau a'n tisiadau
- Deall y gellir lledaenu heintiau trwy beswch a thisian
- Deall y gall arferion resbiradol da leihau lledaeniad heintiau
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall y gallwn ni ledaenu heintiau drwy gyffwrdd arwynebau ar ôl cyffwrdd/sychu ein trwyn neu ddal pesychiad/tisiad
- Deall sut i ddatblygu ymddygiadau arfer gorau o ran hylendid resbiradol mewn bywyd bob dydd i leihau lledaeniad haint
Gwybodaeth Gefndir
Mae heintiau resbiradol yn heintiau sy'n digwydd yn yr ysgyfaint, y frest, y sinysau, y trwyn a'r gwddf, er enghraifft, peswch ac annwyd, y ffliw a niwmonia. Gall yr heintiau hyn ledaenu o berson i berson trwy'r awyr, trwy gyswllt person i berson (cyffwrdd dwylo, cofleidio, cusanu) neu drwy gyffwrdd ag arwynebau halogedig.
Gall hylendid resbiradol da, fel gorchuddio eich pesychiadau a'ch tisiadau, helpu i atal heintiau rhag lledaenu.
Mae'r cynllun gwers hwn yn eich helpu i addysgu myfyrwyr ynghylch pam mae hylendid resbiradol yn bwysig, sut mae microbau'n lledaenu trwy disiadau a phesychiadau, a sut gellir atal lledaeniad heintiau.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Rhedfa llysnafedd trwyn
- Ffeithiau tisian
- Smwt llysnafeddog
- Chwilair tisian
- Llenwi'r bylchau
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Pethau byw a'u cynefinoedd
Saesneg:
- Darllen a deall
- Iaith lafar
Mathemateg
- Cymharu mesuriadau