CA1: Cyflwyniad i Ficrobau
Nod y wers hon yw cyflwyno myfyrwyr i firysau, bacteria a ffyngau. Mae'r gweithgaredd rhagarweiniol yn caniatáu i fyfyrwyr gyfuno eu sgiliau arsylwi a chreadigol i wneud microb o'u dewis eu hunain, gan archwilio gwahanol fathau a siapiau o ficrobau.
Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Deall bod tri math gwahanol o ficrobau: firysau, bacteria a ffyngau
- Deall bod microbau i gyd yn wahanol siapiau a meintiau
- Deall y gall rhai microbau fod yn ddefnyddiol a gall rhai fod yn niweidiol
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn:
- Deall bod microbau i'w cael ym mhob man
- Deall bod y rhan fwyaf o ficrobau yn rhy fach i'w gweld gyda'r llygad noeth
Gwybodaeth Gefndir
Mae micro-organebau, neu germau, bygiau neu ficrobau i roi enwau mwy cyffredin iddyn nhw, yn bethau byw bach iawn sy'n rhy fach i'w gweld gyda'r llygad noeth. Maen nhw i'w cael ym mhob man ar y Ddaear bron. Mae rhai microbau'n ddefnyddiol, a gall eraill fod yn niweidiol i bobl.
Mae microbau yn dod mewn pob siâp a maint. Y tri grŵp o ficrobau sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd yw firysau, bacteria a ffyngau.
Mae'r cynllun gwers hwn yn eich helpu i gyflwyno i fyfyrwyr beth yw microbau a datblygu dealltwriaeth y gallan nhw fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol. Mae hyn yn sail i drafodaethau yn y dyfodol ar hylendid a heintiau.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Modelu microbau
- Cardiau ie neu na
- Cardiau fflach Microbau
- Llenwi'r bylchau
Dolenni i'r cwricwlwm
ABCh/ACRh:
- Iechyd ac atal
Gwyddoniaeth:
- Gweithio'n wyddonol
- Pethau byw a'u cynefinoedd
Saesneg:
- Darllen a deall
- Ysgrifennu