Skip to main

Cwrs Cymunedol Trechu'r Bygiau

Cwrs hylendid cymunedol chwe wythnos yw Trechu'r Bygiau sydd â'r nod o roi gwybodaeth i bobl i allu cadw eu hunain ac eraill yn iach trwy atal lledaeniad heintiau a dysgu am drin heintiau.

Decorative
Lawrlwytho'r wers gyflawnLawrlwytho DOCXLawrlwytho PDF

Strwythur y Cwrs

Mae'r cwrs yn cynnwys chwe sesiwn sef 'cyflwyniad i ficrobau'; 'hylendid dwylo a hylendid resbiradol'; 'hylendid bwyd'; 'hylendid y geg'; 'gwrthfiotigau'; a sesiwn olaf ar 'hunanofal a chynllunio camau gweithredu ar gyfer y dyfodol'. Gellir defnyddio'r adnoddau hefyd fel sesiynau unigol neu eu cynnwys mewn cwrs 'sgiliau bywyd' ehangach.

Cwrdd â'r Bygiau
Mae'r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o ficrobau. Caiff cyfranogwyr eu cyflwyno i fyd microbau, yn gyntaf trwy archwilio'r gwahanol fathau a siapiau o ficrobau ac yna, trwy drafod gwahanol ficrobau defnyddiol a niweidiol.
Lledaenu Bygiau
Mae'r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o ledaeniad heintiau gan gynnwys sut mae microbau'n cael eu lledaenu trwy disian a sut gall golchi dwylo'n iawn gyda sebon dorri'r gadwyn heintio.
Bygiau Bwyd
Mae cyfranogwyr yn dysgu pa mor hawdd y gall microbau niweidiol ar fwyd amrwd drosglwyddo i bobl. Mae'r cwis rhyngweithiol yn dangos sut i baratoi bwyd yn ddiogel ac mae'r gweithgaredd labeli bwyd yn dangos beth yw ystyr y labeli ar fwydydd.
Bygiau'r Geg
Mae'r sesiwn hon yn ymdrin â sut i atal pydredd dannedd trwy ddangos pwysigrwydd cyfyngu ar faint o siwgr rydych yn ei yfed a'i fwyta a brwsio dannedd ddwywaith y dydd. Gall cyfranogwyr edrych hefyd ar gynnwys siwgr mewn bwydydd a diodydd.
Trechu Bygiau
Yn ystod y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu beth yw gwrthfiotigau, pryd i'w cymryd a sut i'w cymryd yn gywir. Bydd arddangosiad yn cyflwyno ymwrthedd i wrthfiotigau a bydd gweithgaredd cyfranogwyr yn dangos pa mor hawdd y mae bacteria ag ymwrthedd i wrthfiotigau'n lledaenu.
Adnabod eich Bygiau
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i ofalu am eu hunain gartref yn achos heintiau cyffredin. Nod y sesiwn yw grymuso cyfranogwyr i wneud penderfyniadau am eu hiechyd eu hunain a chael cyfranogwyr i feddwl am eu defnydd eu hunain o wrthfiotigau.

Sefydliadau sy'n Cydweithio

Datblygwyd Trechu'r Bygiau mewn cydweithrediad â Kingfisher Treasure Ltd., Prifysgol Caerdydd, Barts a'r London School of Medicine and Dentistry. Gallwch ddarganfod mwy am gydweithio â sefydliadau eraill ar ein tudalen partner.

Darllen mwy