Y Blynyddoedd Cynnar: Hylendid Resbiradol
Mae'r wers hon yn helpu plant i ddysgu pa mor hawdd y gall germau niweidiol ledaenu drwy disian.
Sgroliwch i lawr i ddarganfod mwy ac i lawrlwytho'r adnoddau.
Amcanion dysgu
Bydd pob myfyriwr yn:
- Tisian i mewn i hances bapur, neu i mewn i lawes, yw'r ffordd orau o atal lledaeniad germau annwyd a ffliw.
- Gall tisiadau gynnwys germau niweidiol a all ledaenu dros ddwylo
- Trefn golchi dwylo a chwythu trwyn
Gwybodaeth Gefndir
Mae heintiau resbiradol yn heintiau sy'n digwydd yn yr ysgyfaint, y frest, y sinysau, y trwyn a'r gwddf, er enghraifft, pesychiadau ac annwyd, y ffliw a niwmonia. Gall yr heintiau hyn ledaenu o berson i berson trwy'r awyr, trwy gyswllt person i berson (cyffwrdd dwylo, cofleidio, cusanu) neu drwy gyffwrdd ag arwynebau halogedig.
Gall addysgu hylendid resbiradol da o oedran ifanc, fel gorchuddio eich ceg wrth beswch a thisian neu olchi'ch dwylo'n rheolaidd am 20 eiliad, helpu i atal yr heintiau hyn rhag lledaenu.
Mae'r cynllun gwers hwn yn eich helpu i addysgu myfyrwyr ar sut beth yw hylendid resbiradol da a sut i'w ymarfer.
Gweithgareddau
Prif weithgaredd:- Tisiadau Paent
- Cardiau fflach Golchi Dwylo a Chwythu'r Trwyn
- Gweithgaredd Ysgrifennu Chwythu'r Trwyn
Dolenni i'r cwricwlwm
Cyfathrebu a datblygiad iaith:
- Gwrando a thalu sylw
- Deall
- Siarad
Datblygiad corfforol:
- Iechyd a hunanofal
Celfyddydau mynegiannol a dylunio:
- Archwilio a defnyddio'r cyfryngau a deunyddiau