Skip to main

Gwybodaeth am y Rhaglen e-Bug

Dysgwch pam y sefydlwyd e-Bug a'r rôl hanfodol sydd gan blant a phobl ifanc wrth atal a rheoli heintiau ac ymateb i fygythiad ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Yr her

Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yw un o'r bygythiadau iechyd byd-eang mwyaf sy'n wynebu'r byd. Mae'n digwydd pan fydd bacteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid yn newid dros amser ac nad ydyn nhw'n ymateb i feddyginiaethau mwyach, gan wneud heintiau yn anoddach eu trin, a chynyddu'r risg o glefyd, salwch a marwolaeth.

Os na wnawn ni unrhyw beth, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhagweld y byddwn yn gweld 10 miliwn o farwolaethau erbyn 2050. Mae Llywodraeth y DU wedi creu gweledigaeth 20 mlynedd i atal a rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Y newyddion da yw y gallwn weithredu. Trwy atal heintiau a defnyddio gwrthficrobau'n briodol, gallwn atal a rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Ymateb i Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Mae'r rhaglen e-Bug yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU i ymateb i ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy hyrwyddo addysg gyhoeddus ar:

  • Atal heintiau, gan gynnwys hyrwyddo arferion hylendid da mewn cartrefi, ysgolion a chymunedau
  • Deall symptomau ac arwyddion heintiau, a gwybod pryd i hunanofalu a phryd i ofyn am gyngor proffesiynol
  • Gwybod risgiau a buddion gwrthficrobau, a dim ond eu cymryd yn ôl y cyfarwyddiadau a roddir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol

Rydym ni'n gwneud hyn trwy ddarparu negeseuon i blant a phobl ifanc trwy'r ffynonellau gwybodaeth y maen nhw'n ymddiried ynddyn nhw, gan gynnwys eu hysgolion, eu rhieni a'u gofalwyr, a'u harweinwyr cymunedol.

Partneriaeth Ryngwladol

Partneriaeth ryngwladol yw'r Rhaglen e-bug. Rydym ni'n cydweithio'n agos â phartneriaid ar draws gwledydd i ymateb i'w Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol i atal a rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd, trwy hyrwyddo addysg gyhoeddus sy'n benodol i gyd-destun ar atal heintiau ac ymateb i ymwrthedd microbaidd. Dysgwch fwy am y gymuned e-Bug fyd-eang trwy archwilio ein map partneriaeth.

Archwilio'r bartneriaeth

Hanes y rhaglen e-Bug

Dechreuodd y rhaglen e-Bug yn 2006, ac fe'i hariannwyd yn wreiddiol gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae bellach yn cael ei gweithredu gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, gyda'r rhaglen yn parhau i gael ei gweithredu ar draws cymunedau yma yn y DU a thramor.

2006

Dechreuodd y rhaglen e-Bug gyda 10 partner cyswllt ac 8 partner sy'n cydweithio. Fe'i hariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd

2007

Datblygwyd adnoddau addysgu ar gyfer plant 8-13 oed gydag athrawon a gwyddonwyr ledled gwledydd Ewrop

2019

Lansiodd e-Bug werthusiad i edrych ar yr adnoddau y mae'n eu darparu ac a oedd yn dal i fod yn addas i'r diben. Dangosodd y canfyddiadau ei fod yn addas i'r diben o hyd, ond bod angen diweddaru adnoddau

2021

Mae adnoddau'n cael eu diweddaru a'u hehangu i gynnwys plant a phobl ifanc 3-16 oed. Anfonir llyfrau i bob ysgol yn Lloegr

2022

Mae'r wefan newydd yn cael ei lansio!